miércoles, 10 de octubre de 2007

Ceri Wonka a'i dun o siocledi


Fe brynais i dun o siocledi ‘Roses’ ddydd Sadwrn. Ar gynnig yn ‘Somerfield’ oeddden nhw am £4.99 yn lle’r £9.99 arferol. Un i fynd am fargeinion ydw i - ac a gwed y gwir, siocledi ffantastig ar gyfer y Nadolig ydyn nhw. Maen nhw’n rhan o’r Nadolig i bawb erbyn hyn - pawb heblaw am y bobl dlawd iawn yn ‘Sgubor Goch’ siwr o fod. Roedd yr un cynnig ar y tun o ‘Quality Street’ hefyd, ond mae’n well gen i’r lliwiau ar y tun ‘Roses’, ac felly nhw enillws y dydd.

Mae’r tun brynais i adeg ‘Dolig llynedd yn fwy na’r tun brynais i ddydd Sadwrn, ond yr un faint o siocledi sydd yndo – dim ond y tun sy’n fwy ond mae hwnna i dwyllo’r bobl i feddwl eu bod nhw’n cal rhagor o siocledi. Mae popeth i weld yn fwy adeg y Nadolig, ond twyll yw'r cyfan. Yr un faint o siocledi ‘rwyt ti’n ei gael, ond o ran seis y tun, mae ‘na fwy o le i roi pensiliau, rubbers, condoms ne’ ots pwy gachu rwyt ti’n moyn dal yndo a dyna'r unig wahaniaeth.

Pan own i’n grwtyn, roen ni’n cael un o’r hosanau ffug ‘na sydd a Snickers, Mars, Milky Way, Starburst a rhyw ‘shit’ o Cadbury’s ffycin spacemen ynddynt. Os oeddet ti’n lwcus, fe gelet ti baced o’r coca cola bottles blas chwerw ‘na hefyd, ond fues i erioed mor ffodus.

Fe wetsai mam taw un o hen stockings mamgu gelai hi a dim ond afal neu orenshan yndo - ond wi’n credu iddi watsho gormod o hen sgetshys ‘Monty Python’, a chelwydd golau yw hwnna i gyd.

Er imi brynu’r tun ar gyfer y Nadolig, ma' fe’n wag erbyn hyn; wel, bron â bod yn wag – rwyt ti’n cael dewis o bedair siocledyn ar ddeg a bu imi bennu off un ar ddeg ohenyn nhw yn reit siarp wrth watsho’r ‘Wizard of OZ ar DVD. Wi’m yn cofio pwy faint o bob un teip o siocledyn oedd ‘na, ond erbyn hyn, dim ond detholiad o dri sydd ar ôl – ‘praline moment’, ‘chunky truffle’ a ‘caramel velvet’ ac yn wir iti fysa’n well gen i fyta’r afal a’r orenshen o stockings mamgu na’r rhain – ych y fi, wir yr!! – ac a gwed y gwir, roedd y ‘tangy orange creme’ yn eitha shit ‘ed. Fe wna i brynu’r Quality Street’ tro nesa.

No hay comentarios: