jueves, 4 de octubre de 2007

Rip Van Winkle


Fe geson ni ddadl pwy ddiwrnod biti faint o gwsg sydd ei angen ar ddyn. Bai fi oedd hyn am weid y gallwn inna gysgu pob nos am ddeuddeg awr yn rhwydd ac yn hapus braf. Wyth awr yn ôl pob sôn yw’r cyfnod delfrydol er mwyn ail-siarso’r corff a’r ymennydd.

Er mawr syndod imi, mae’r arbenigwyr yn gweid os cysgi di’n fwy na hynny, rwyt ti’n mynd i farw’n gynt, ond eto i gyd, maen nhw’n gweid yr un peth os na chysgi di ddigon hefyd, ac mae hwnna’n gwneud mwy o sens – ifi ta p’un i.

Mae fe i gyd yn ‘relative’ siwr o fod - rwyf inna’n deirgwaith yn fwy na’r un corrach neu’r un pigmi a weli di’n unman, ac felly, fe allan nhw gael bobi pedair awr o gwsg a finna’n ddeuddeg awr a dyna ni’n gyfartal. Chwe throedfedd o uchder ydw i, ac felly, mae gen i fwy o fatris i siarso. Mae'r corrach fel arfer yn llai na’r porcelin piso mewn tŷ bach a ‘sdim angen cymaint o gwsg arnyn nhw, oes e.

Yng ngwres y ddadl, bu rhai wrthi’n son am Margaret Thatcher a oedd angen rhyw bedair awr o gwsg yn unig, a’r ffaith iddi gyrraedd gwth o oedran; ond myn yffach i, fuws hi erioed yn byw ar yr un planed â neb arall. Enid Blyton yr un fath - a hitha'n ysgrifennu llyfrau pwy gilydd, un ar ôl y llall, ac yn sicr heb gysgu rhyw lawer. Dyw e ddim yn normal odi fe.

Dyna shwt mae gwpod pwy fabi sy’n mynd i fod yn wleidydd, awdur plant rhyfedd, dyn llofrudd cyfresol neu’n ‘prat’ pur - nhw yw'r babis sydd ar ddihun trwy’r amser yn codi cynnwrf. Lladdwch nhw nawr - ond nid ym Mhortiwgal!!

No hay comentarios: