Fe geso i ddau lythyr gan y beiliaid heddi. Roedd un wedi'i bostio ar ddydd Gwener a’r llall wedi'i bostio ddydd Sadwrn. Fe alwson nhw heibio i’r fflat ddydd Iau ac am imi fod mor sarrug a swrth wrth siarad â nhw, dyma nhw’n mynd yn benwan ac addo brwmstan a thân imi – i’r carchar y bydda i’n mynd os na fydda i’n callio!!. Dyna fu cynnwys llythyr dydd Gwener.
Rwtsh yw e wrth gwrs – mae’n rhaid iddynt fynd nôl at y llys er mwyn fy ngharcharu, ond fe wedan nhw gelwyddau rownd y rîl. Fe ga’ i ail gynnig i bledio fy achos mewn llys sifil a hynny a wnaf. Fe gawn ni weld – mae arno i biti pum can punt iddyn nhw ond fel arfer mae can punt yn golygu rhyw dri diwrnod dan glo, felly bysa 500 punt yn siwr yn golygu pythewnos; ond ‘in for a penny in for a pound’ yw hi a bydda i mas cyn diwedd yr wythnos – siwr iti os bydda i’n byhafio fy hunan. Fe wna i gymryd wythnos off gwaith os bydd rhaid.
Bysa mwy o arian gen i i dalu’r ffycin dreth ‘ma taswn i ddim yn mynd mas mor aml, sai’n gweid llai, ond mae bywyd mor fyr. Wi’n gwpod be' fysa pobl yn ei weid. Be’ tasa pawb yn gwneud yr un peth - lle bysan ni wedyn? Yr unig beth alla i weid yw na fysa ‘na ddim ‘council tax’ i gael! Rŷn ni’n talu digon o ffycin trethi fel ag y mae.
O leiaf yn y jêl, fe gelswn i ginio dydd Sul â thato, ffowlyn a llysiau ar y plât. Yn wir iti, fe ddelswn i mas yn iachach nag yr etho i i mewn. Y fath bleser - mae tatws wedi mynd mor ddrud erbyn hyn ond ŷn nhw. Hyd yn oed yn Somerfield, mae bagaid o datws yn costio £2.00 ac mae ambell i daten mor fach fel yr wyt ti’n lwcus y diawl i gael dwy dshipsen mas o’ddi.
Cadw cywair yr un diwn gron yw’r llythyr a bostiwyd ddydd Sadwrn. Erbyn hyn, dyma nhw’n gweid wrtho i y bydd eu fan yn cyrraedd fy fflat yr wythnos hon er mwyn casglu’r ychydig bethau sy gen i, a bysa ‘n well gyntyn nhw fy mod i i mewn ar y pryd. Ond fe ddethon nhw ddydd Iou a cheson nhw fawr o lwc. Celwydd eto - ombai fy mod i’n gadael drws ne’ ffenestr ar agor iddyn nhw, chân nhw ddim dod i mewn. ‘Sdim hawl ‘da nhw dorri i mewn - ond mae’n siwr gen i taw rhyw ddydd y cân nhw’r hawl honno.
Ar hyn o bryd, maen nhw’n mynd o gwmpas y lle fel iâr heb ben, yn rhaffu celwyddau i godi ofn ar ddyn - y bastardiaid pob un wan jac o’nhw. Mae’n debyg fod y saga hyn yn mynd i fynd mlan a mlan am dipyn eto. Gobeitho ydw i na fydd y petha hyn yn tarfu ar fy mlog a'r pethau diwylliedig y byddaf yn ysgrifennu amdanynt fel arfer.
Rown i’n meddwl taw ‘bwmbeiliaid’ oedd y gair Cymraeg am ‘bailiffs’, ond fe edrychais i fe lan yn y geiriadur ac mae’n debyg taw ‘beiliaid’ ŷn nhw. Wn i ddim pam daeth y gair ‘bwmbeiliaid’ i’m pen ond efallai bod hwnna’n golygu ‘gay bailiffs’. Fe fysa hwnna wedi bod yn lot rhwyddach a gwed y gwir. Sbel yn ôl, roedd mam wedi prynu cwshins reit pert imi. Mae’n nhw’n eitha lliwgar a chanddynt rhwy ffrils bach pinc o’u cwmpas nhw. Fe fyswn i wedi bod yn ddigon bodlon rhoi’r rhain i’r bwmbeiliaid petasen nhw’n gadael y gliniadur a’r teledu i fod.
2 comentarios:
Rydych yn berffaith iawn am bwmbeiliaid! Dyma sydd gan Geiriadur Prifysgol Cymru: bwmbeili [bnth. S. bum-bailiff] eg. ll. bwmbeiliaid. Ceisbwl, swyddog siryf sy'n cymryd troseddwyr i'r ddalfa: bum-bailiff.
1836. Ar lafar.
[gw. Gwefan y Geiriadur.]
Gyda llaw, yn ôl yr OED dyma darddiad y gair Saesneg: "app. f. BUM n.1 + BAILIFF: i.e. the bailiff that is close at the debtor's back, or that catches him in the rear ... A contemptuous synonym of BAILIFF 2: 'A bailiff of the meanest kind; one that is employed in arrests'."
Diolch o galon am y ddolen 'na, fy nghyfaill.
Mae fe mor neis i feddwl bod rhywun diwylliedig yn darllen fy mlog o'r diwedd.
Fy mai i yw fy mod yn rhegu gormod ac yn dechrau siarad am bethau afledneis bywyd (er fy ngwaethaf) ac o'r herwydd yn denu'r 'riff raff' a'r 'hoi poloi' ond o leiaf nawr mae gen i un darllenydd hynaws a diwylliedig ac mae'n werth y drafferth i gyd :-)
Ceri xx
Publicar un comentario