sábado, 1 de septiembre de 2007

Y blaidd a'r oen


Dyma un o chwedlau AEsop yr wyf yn eitha hoff ohoni. Meddwl yr oeddwn i bod angen ychydig bach o ddiwylliant ar fy mlog, a stori sy’n addas ar gyfer plant yw hon hefyd – ‘sdim sôn am ryw ynddi er bod tipyn o drais ar y diwedd, ond mae plant yn lico bach o drais ond ŷn nhw.

Mae’r fersiwn hon yn dod o lyfr dysgu’r Gymraeg i ysgolion elfennol Cymru ym 1890. Chwedl i’w chyfieithu a’i thrafod wedyn yn y Saesneg yw hi.

Doedd fawr o gariad gan addysgwyr at y Gymraeg yn y cyfnod hwn a bu iddynt weld dysgu’r Gymraeg fel modd i hyrwyddo’r Saesneg mewn gwirionedd. Dyma ychydig o’r hyn a ddywedant yn y rhagair:

We must not encourage the Welsh language at the expense of English, but rather as a vehicle for the sounder and more rapid acquisition of English, ...’

Neges y stori yw y bydd gan deyrn eli at bob clwyf neu yn fodlon cyfiawnhau unrhywbeth y mae’n bwriadu ei wneud. Mae hynny yr un mor wir pan gafodd y stori ei hadrodd y tro cyntaf ag yw hi heddiw. Dyma hi:
.

Un diwrnod poeth yn yr haf, daeth blaidd ac oen at yr un nant i dori eu syched. Ar ol yfed, dechreuodd y blaidd deimlo yn newynog. Syrthiodd ei lygaid ar yr oen oedd yn yfed yr ochr isaf iddo. Meddyliodd ynddo ei hun y buasai yr oen yn giniaw foethus.

Yna dechreuodd chwilio am achos cwerylu â’r creadur diniwed. O’r diwedd, meddai ef wrth yr oen: -

"Paham y meiddi gynhyrfu y dwfr wyf fi yn ei yfed?”

“Syr,” ebai yr oen, mewn llais crynedig, “sut y gall hyny fod? Nid yw y dwfr yn rhedeg oddiwrthyf fi atoch chwi, ond daw oddiwrthoch chwi ataf fi.”

Yr oedd yr ateb mor rhesymol, ac mor amlwg, fel na feiddial hyd yn nod y blaidd ei amheu.

Ond nid oedd y blaidd yn myned i roddi i fyny ei ginaw am ddim. Felly efe a geisiodd am ryw achos arall i gyfiawnhau ei fwriad drwg, ac meddai:—

“Tydi yw yr hwn a amcanodd dori fy nghymeriad i oddeutu blwyddyn yn ol.”

‘‘ Nid ydwyf fi ond tri mis oed, Syr; gan hyny, sut y gallaswn amcanu dori eich cymeriad naw mis cyn fy ngeni?” oedd ateb yr oen.

Pan welodd y blaidd fod yr oen yn well rhesymwr nag ef, efe a ffyrnigodd yn fawr iawn, ac meddai:—

“Os nad tydi ydoedd, dy dad oedd, ac y mae yn rhaid i ti dalu am bechod dy dad.”

Ar hyn neidiodd ar yr oen, a llarpiodd ef mewn eiliad.
.
Ffycars cas a thwyllodrus yw'r bleiddiaid 'ma ontefe!!

No hay comentarios: