miércoles, 5 de septiembre de 2007

Naw miliwn o feiciau

Dyma gân bert oddi ar ail albwm Katie Melua ‘Piece by Piece’ a ryddhawyd yn 2005. Fe gei di wrando arni tra bot ti wrthi’n darllen y blog neu’n edrych ar y lluniau ar y blog – sdim ots ‘da fi.

Mae‘r pennill cyntaf yn sôn bod naw miliwn o feiciau yn ‘Beijing’. Mae’n debyg bod hwnna’n wir ac mae’n siwr gen i nad oes yr un seicliwr yno yn seiclo ar y pafin neu beth bynnag sy’n pasio am bafin yn Tsheina.

Yn Llundain mae 1.4 miliwn o feiciau ac mae pob un wan jac sy’n eu defynyddio nhw yn seiclo ar y pafin o bryd i’w gilydd. Yn waeth na hynny mae 80,000 o feiciau yn cael eu twgyd bob blwyddyn yma, felly mae 80,000 mas o’r 1.4 miliwn sy’n seiclo ar y pafin wedi dwyn y ffycin beic yn y lle cyntaf - ♫ ♪ and that’s a fact, it’s a thing we can’t deny ♪ like the fact that I will hate them till I die ♫♪♪ ♫

No hay comentarios: