viernes, 31 de agosto de 2007

Y butain o Gymru


Dyma un o’r straeon a wedodd y ‘drag queen’ pwy nosweth. Wi’n siwr imi glywed stori debyg a’r dywysoges Margaret yn ganolbwynt iddi, ond fe ddaeth gwên i'm gwyneb y noson honno, er mae’n siwr taw dylanwad yr alcohol oedd yn gyfrifol am hwnna. Simo hi i weld mor ddoniol erbyn hyn ac ifi ond yn ei chofio hi am iddi weid bod y butain yn dod o Gaerdydd, ond rown i’n moyn gwneud blog arall er mwyn cael deuddeg cofnod am fis Awst, felly dyma’r stori i fynd at y llwyth o flogs cachu wi’n towlu mas:

Mae’r boi ’ma yn cael gafael ar butain o Gaerdydd am y noson. Yn y gwely mae hi i weld bach yn oer a dim symud yn perthyn iddi hi, felly dyma fe’n mynd â’i law i lawr tuag at ei ffwrch er mwyn ei thwymo hi lan damed bach. Mae fe’n ceibo yn y fanna am ryw ychydig ond yn sydyn reit dyma fe’n gweiddu:

- Lle ffwc mae fy watsh i wedi mynd?

Dyma’r butain wedyn yn gweid wrtho fe i roi ei law nol i mewn i weld os caiff e afael arni hi, a dyna a wnaed, ond mae ei law e’n bwrw’n erbyn rhywpeth. Methu deall beth sydd yno mae’r boi ac yn rhoi ei wyneb i mewn i gael pip. Yn syndod iddo fe, dyma’r wyneb arall yn dod i’w gyfarfod.

– Be ffwc ti’n wneud yma? mynte fe.

– Rown i’n mynd i ofyn yr un peth iti – mynte’r llall

- Wi’n chwilio am fy wats. Fe wnetho i ei cholli hi biti pum munud yn ôl.

- Os felly, gan bwyll ‘achan. Wi yma ers mis a hanner yn chwilio am fy nhractor ac wi dal heb ddod o hyd iddo fe.


Bwm Bwm!! ....a cher at flog arall os ôt ti’n disgwyl rhywpeth diwylliedig!!

2 comentarios:

Nwdls dijo...

Argol, dwi'n cofio hon o'r ysgol!

Cer i Grafu dijo...

Wi'n gwpod ond roedd y drag queen yn eitha hen. Fe wellodd hi erbyn y diwedd ond own i'n ffilu cofio dim o'r jocs eraill.