sábado, 22 de septiembre de 2007

Ieithoedd yn y sustem addysg


Bach o rant yw’r blog hwn. Ei ddechrau yw’r sylw rown i’n mynd i roi ar flog Aran ac ynta’n gofyn a oedd pwynt gin y boi ‘na oedd yn conan am y Gymraeg a’i lle yn y sustem addysg. Wi’n dueddol o fynd mlan a mlan ac felly down i’m yn credu taw teg oedd ei roi e ar ei flog e a diflasu ei ddarllenwyr. Dyma fy marn inna felly ynglŷn â dysgu ieithoedd modern yn ysgolion uwchradd Cymru.
.
Eitha ceidwadol fy marn ydwyf ond wrth fod yn fab trwy’r berth i’r athro emeritws Lladin a Groeg Watcyn Arwyn Jones ac ynta’n warden ar Jesus College, Rhydychen, amhosibl fuasai bod fel arall.

Yn fy marn i, mae dysgu ieithoedd fel y cyfryw yn gabolach llwyr yn yr ysgolion uwchradd. Nid oes syndod bod nifer helaeth o blant yn rhoi’r gorau iddynt cyn gynted ag sy’ bosib. Ers llawer dydd, bu pwyslais ar ramadeg iaith ond erbyn hyn mae hwnna wedi mynd yn hollol anffasiynol a’r sôn amdano yn ddigon i godi gwrychyn addysgwyr y wlad hon. Siaradant am y dull naturiol - codi iaith wrth y clyw ac mae gramadeg yn air brwnt.

Fe gredir gan lawer y dylid dysgu ail-iaith yn union fel y buasai plentyn yn ei dysgu hi o’r crud, ac fe all weithio pan fo amser a’r amgylchiadau ar gael a’r gymdeithas yn cynorthwyo. Er hynny, yn yr ysgol Uwchradd nid babis bach yw’r disgyblion a dyw dysgu brawddegau fan hyn fan draw yn dda i ddim. Ddysgi di mo’r un ail-iaith heb ymdrech a dyw parots ddim yn ymdrechu rhyw lawer – ni all yr un athro ddysgu iaith iti; dy helpu di a’th roi di ar y ffordd y gall athro da ei wneud ond ti’n sy’n gorfod dysgu dy hunan a mentro siarad a dyw brawddegau parot yn dda i ddim yn hynny o beth.

Gramadeg yw sylfaen iaith – geirfa yw ei brics a’i gramadeg yw ei mortar. Enaid ac offer yr iaith yw ei gramadeg a gwiw iti agor ceg heb grap arno, ac wrth siarad iaith newydd rwyt ti ar ben dy hunan - ti sy’n gorfod bwrw ymlaen a mentro ei siarad hi, ac mae angen yr arfau arnot ti - a son am gystrawen iaith lafar ydw i, nid ei chywirdeb gramadegol llenyddol.

Dulliau eilradd a gwael o ddulliau llwyddiannus TEFL ac wlpan ydyw’r dulliau hyn o ddysgu yn yr ysgolion ar hyn o bryd a chei di byth lwyddiant wrth geisio ei wneud e mewn ysgol uwchradd wrth ystyried yr ychydig oriau sydd ar gael. Mae’ na lwyddiannau wrth gwrs ond llwyddiannau’r plant ymroddedig ydynt ac nid oes a wnelo'r peth a'r dysgu.

Mae’r dulliau yna yn iawn yn yr yr ysgol gynradd ac maen nhw’n cael cryn llwyddiant yno, ond fe gollir popeth wrth i’r plant fynd i’r ysgol Uwchradd mewn nifer o ysgolion.

O ran y Gymraeg, wi’n credu taw’r unig ateb yw i bob ysgol gynradd yng Nghymru ddysgu’r Gymraeg at safon, a throi pob un wers yn ddwyiethog yn yr ardaloedd 'di-gymraeg', ond mae angen dilyniant, a dysgu o leiaf rhai pynciau trwy’r Gymraeg yn yr ysgolion Uwchradd cyfrwng Saesneg fel sy’n digwydd yn Ysgol Gyfun Treorci yn y Rhondda, er mawr clod iddynt. Hynny yw, fe ddylai pob ysgol yng Nghymru fod yn ysgol ddwyieithog neu’n ysgol Gymraeg ac i’r cydsyniad o ysgol Saesneg droi’n rhywbeth hollol ddieithr inni.

Wn i’m pa mor bosibl yw cyrraedd y ddaeargryn honno neu a fyddai ewyllys y bobl yn ei chaniatáu, ond os ydym ni o ddifrif ynglŷn â’r Gymraeg, dyna’r nôd y dylen ni anelu ato.

O ran y sefyllfa fel ag y mae ar hyn o bryd, mae’r Gymraeg yn orfodol fel pwnc ac efallai bod plant yn troi yn ei herbyn yn union fel ag y maent yn troi’n erbyn y Ffrangeg neu unrhyw bwnc arall, ond mae Ffrainc yn bell i ffwrdd a byw yng Nghymru y mae’r plant hyn. Tristwch o’r mwyaf a methiant addysg yng Nghymru yw’r sefyllfa os yw’r plant hyn yn troi yn erbyn y Gymraeg oherwydd dulliau dysgu a chyflwyno’r iaith. Ond nid bai’r Gymraeg yw hwnna ond y sustem o gyflwyno’r Gymraeg a'n diwylliant yn ysgolion Uwchradd Cymru ac fe ddylid edrych ar hynny ar frys.

Fe ddylai’r Gymraeg fod yn rhan annatod o bob agwedd o addysg yng Nghymru – yn rhan hanfodol ohoni ac nid pwnc y tu fewn iddi ymysg eraill y gall ei gelynion ei gwatwar pob cyfle gan nhw .

3 comentarios:

Aran dijo...

Dw i'n cytuno'n llwyr bod patrymau dysgu ieithoedd yn y sector uwchradd yn fethiedig - mae cymaint o ddatblygiadau wedi bod ar ran ein dealltwriaeth o sut i ddysgu ieithoedd, ond prin bod dim wedi newid yn yr ysgolion ers blynyddoedd...

Cytuno hefyd bod sefyllfa lle mae ysgolion Cymru i gyd yn llawn ddwyieithog byddai'r unig sefyllfa normal ar gyfer gwlad wirioneddol ddwyieithog - felly mae'n rhaid mai dyna'r nod.

Wedyn, rhaid dewis rhwng ddwy ffordd i'w gyrraedd - gwrthdroi'r Llyfrau Gleision trwy orfodaeth, neu gynyddu diddordeb mewn ac felly nifer yr ysgolion llawn ddwyieithog.

Yr ail, am wn i, ydy'r tebycaf o fod yn llwyddiant, a dyna pam dw i'n cael fy hun yn rhyw lled-gytuno nad ydy Cymraeg ofynnol ddim yn ffordd berffaith ymlaen...

Cer i Grafu dijo...

Lled-gytuno ydw i hefyd taw nid Cymraeg gorfodol yw'r ateb ond mae hwnna wedyn yn agor y llif-ddoriau i rai ysgolion gau drws ar unrhyw fath o gymreictod.

Wn i'm beth yw'r ateb ond mae'n siwr gen i y gallwn i ddysgu oddi wrth wledydd eraill.

Er ein cwilydd, rydym ar ei hol hi ynglyn a chymdeithaseg iaith a dylsen ni fod yn arwain y ffordd - mae pob profiad o ddwyieithrydd i gael yn ein cymunedau a'r proses o golli iaith yn rhywbeth byw i sawl ardal.

Mae'r byd yn mynd yn llai ac yn llai pob dydd ac fe allwn ni ddysgu'r ffordd ymlaen siwr Dduw - yr ewyllys sydd bwysig a'r cryfder i fentro.

Anónimo dijo...

Wy wedi gadael sylw ar flog Aran yn gweud bod isie ennil 'hearts and minds' cyn llwyddo gyda gorfodaeth ieithyddol mewn addysg.

Ond i ddatblygu syniad Ceri ymhellach, beth am Ysgol Feithrin (neu ddosbarth dderbyn) Gymraeg gorfodol, wedyn un diwrnod Gymraeg yr wythnos am y ddwy / tair blynedd cyntaf yn yr ysgol gynradd. (hy, byddai isie 2-3 athro Cymraeg teithiol am bob 5 ysgol). Erbyn diwedd y cyfnod hwn, bydd Cymraeg ddefnyddiol gyda'r plant, yn ddigon o sylfaen i weddill eu haddysg iaith Gymraeg fod yn wersi mireinio, a gwersi mewn pynciau eraill sy'n cael eu dysgu trwy'r Gymraeg.

Ewyllys yw popeth yn y maes hwn. Hearts and minds eto: Heb fod yr athrawon *am* ddysgu'r pwnc, bydd y plant yn colli diddordeb yn ddigon clou. Tybed oes na ddealltwriaeth o hynny mewn ambell i gwr (gwrth Gymreig) o'r system addysg?