jueves, 20 de septiembre de 2007

Dawns y cowboi


Fe ethon ni i’r dafarn 'ma ar bwys Clapham Junction nos Fawrth a noson blydi ‘line dancing’ oedd hi. Mae’r twmpath dawns yn ddigon i godi cywilydd ar ddyn ond mae hwn yn lot gwaeth. Rwyt ti’n cael y rhesi ‘ma o bobl, a rhai o’nhw wedi gwisgo lan fel y ‘rhinestone cowboys’, yn pranso o gwmpas y lle fel Dolly Parton. Wi’n deall nawr pam bod ‘na gowboi yn y ‘Village People’.

Doedd ffordd yn y byd rown i’n mynd i gymryd rhan, ond boi cydnerth yw Xosé ac mae gynto fe ryw lun o farf, un reit debyg i’r Cadfrigog Custer ‘na, felly fe wnethon nhw linell syth amdano a’i lusgo fe at y dwli. Digon hapus oeddwn i â’m peint yn fy llaw yn chwerthin am ben Xosé nes iddo droi ar ei sawdwl a sigo ei swrn. Dim ond cleisio ei swrn e wnaeth e ond eto i gyd, dyna le roedd e fel rhyw hen fabi yn gwed ei fod e’n ffilu symud o’r llawr.

Mae’n gas gen i fod yn nyrs i unrhyw glaf ond bu raid imi ei helpu fe tsha thre wedyn. Pum munud bant yw’r safle bysiau ond â’i holl bwysau ar f’ysgwydd, fe gymerson ni hanner awr i gyrraedd y lle. Bu raid imi newid ysgwydd pob hyn a hyn ac mae’n siwr gen i fy mod i wedi tynnu cyhyryn, ond does ffyc all o ots gin neb amdano i.

Y bore wedyn â’i droed e wedi chwyddo eitha tipyn, fe ethon ni i’r ysbyty ac oriau bwy gilydd y buon ni’n aros yno. Barn y meddyg oedd taw sigo ei swrn wnaeth e, yn union fel roeddwn i’n ei feddwl. Dim byd mawr o gwbl –clais, sigiad, ‘sprain’, ‘esguince’ –ond mae Xosé yn eitha pendant ei farn ac yn ei farn e doedd y meddyg hwnnw ddim yn werth rhech a thorri asgwrn ei figwrn wnaeth e, siwr Dduw iti.

Wi’n credu ei fod e’n lico wara’r claf a’r unig beth a gododd ei galon oedd cael y ffyns baglu gan yr ysbyty. Reit beryg yw e â’r ffyn ‘ma ac yn slow y diawl arnyn nhw hefyd. Diolch byth bod y tafarndai yn cael agor 24 yr awr erbyn hyn ne’ fydden ni byth yn cyrraedd nunlle mewn pryd. Yr unig beth sydd ei angen arnon ni nawr yw par o ‘stilts’ i Pablo er mwyn codi ei uchder rhyw ‘chydig ac fe fyddwn ni’n iawn.

No hay comentarios: