Mae’r ffyns baglu sy gin Xosé yn eitha da. Mae fe’n gor-wneud y clunhercian a’r ochneidio arnyn nhw, sai’n gweid llai, ond mae pobl yn ymddwyn yn garedig iawn tuag ato fe. Maen nhw’n gadael inni fynd i flaen y gwt yn yr archfarchnad ac yn fodlon ein gadael ni ar y bws o flaen pobl eraill, ac er mawr syndod, mae rhywrai yn sefyll i lan er mwyn rhoi sedd inni. Fe wnewn ni gadw gafael ar y ffyn ‘ma – mae’n siwr bod digon ohenyn nhw yn yr ysbyty i gleifion eraill. Fel arall, fe allen ni beintio rhyw ffon yn wen ac esgus bod yn ddall – wi’n siwr y bysa hwnna’n gweithio’r un fath.
Yn y dafarn sydd orau - mae Xosé yn mynd at y bar ac yn ddi-ffael mae rhyw Samaritan yn gweid wrtho fe i ishta i lawr a bo' fynta'n folon ciwo lan drosto fe a dod a’r peints draw at y ford. Bywyd i’r brenin, myn diawl. Fe ddylsen ni fod wedi gofyn am gadair olwynion - er wrth feddwl, fe fysa Xosé yn cymryd mantais a finna'n gorffod wpo’r ffycin peth i bobman, felly syniad eitha ‘shit’ yw hwnna.
Rŷn ni’n gweid wrth bawb iddo fe gael ei fygio gan griw o hwliganiaid – mae hwnna swnio’n lot gwell na chwympo wrth wneud prat o dy hunan yn y ‘line dancing’. Fe synni di faint o bobl sy’n dod lan i gymdymdeimlo ag ef wedyn, ac maen nhw’n prynu ambell i beint inni hefyd. Bach yn eiddigeddus ydw i o’r holl sylw mae fe’n ei gael, ac felly fe fydda i'n dangos fy nghreithiau i’r byd a’r betws erbyn hyn er mwyn ennyn cydymdeimlad a sylw ifi fy hunan bach. Corff llawn creithiau sy gen i a dim ond Frankenstein sydd wedi achub y blaen arno i o ran eu nifer, ond paid â’m camddeall i, eitha golygus ydw i o hyd – jwst ‘bo fi bach yn ‘accident prone’.
.
Mae'r hanes yn dychra a'r graith fawr sy gen i ar fy mraich dde. Fe brynais i feic modur pan own i byti dwy ar bymtheg a phenderfynu mynd arno i Ferthyr i weld shwt le oedd e. Fe wn i imi gyrraedd Merthyr am ifi ddihuno lan yn Ysbyty’r Tywysog Siarl sydd yng nghyffiniau’r dre yn ôl y sôn. Deufis y bues i yno ac fe roeson nhw’r pin ‘ma yn fy mraich, ond doedd dim nedwyddi i gael ym Merthyr ‘r adeg hynny ac fe wnïson nhw fy mraich nôl i lan yn iwso gwëyll, felly craith eitha salw yw hon. Rown i fod i gael y pin mas ar ôl dwy flynedd ond mae fe yno o hyd, ac fe fydd e ‘da fi yn yr arch ‘ed – Roedd y driniaeth lawfeddygol yn ela digon o lôs y tro cyntaf a simo fi’n mynd trwy hwnna ‘to.
Ar fy nghoes dde y mae’r graith fawr arall, ac mae hon fel clwtyn o groen y bu i'r llawfeddyg roi dros y twll a geso i yn fy nghoes wrth imi drial neidio dros y ffens ‘ma. Chwilio am le cudd a diogel er mwyn cael rhyw fu'r rheswm, ac wn i ddim hyd heddi pam na cherddson ni drwy'r giat – byswn i wedi bod yn well off yn cael wanc gitra na gorffod ela mis a hanner yn yr ysbyty yn Earls Court oherwydd y dwli ‘na. Yn halen ar y friw, bu raid imi dalu tair punt pob dydd er mwyn cael gweld y teledu yn yr ysbyty os gwelwch yn dda. ‘Sim syndod bod pobl yn gweid bod yr NHS yn mynd a’i phen iddi.
Mae gen i greithiau bach eraill ymhobman, rhai fan hyn fan draw ar fy nghoesau am fod gwydr yn beth perygl i roi dy goesau trwyddo; ambell i un ar fy nwylo ac un ar fy mhidyn am gau’r copish arno ond prin y sylwi di ar honno – a sôn am y graith ydw i. Troeon bywyd ŷn nhw ontefe ond pam fi Duw pam fi!
No hay comentarios:
Publicar un comentario