jueves, 6 de septiembre de 2007

Arseholes Anonymous


Bues i’n gwrando ar ail-ddarllediadau o ‘Taro Post’ ar y we yn ystod yr wythnos. Rhaglen sy’n trafod materion cyfoes (?!) yw hon. Wi’n lico Dylan Jones sy’n cyflwyno’r rhaglen, ond myn yffach i, dylset ti wrando ar rai o’r bobl sy’n cael gweid eu pwt. Er mwyn dyn Dylan, gad i rai ohonyn nhw gael heddwch yn y gwallgofdy.

Pwnc un rhaglen oedd trafod absenoldeb Camilla yn y cyngerdd i goffáu Diana. Bu raid goddef y dyn Tegered ‘ma yn cael dweud ei ddweud. Deall pwls y wlad y mae fe wrth giniawa â’r crachach yn Llundain – pobl fydol yw’r rhain wrth gwrs sydd yn ei deall hi’n well na neb. Fe welais i fe unwaith ar un o raglenni S4C yn trafod y broblem o ffurfio llywodraeth yn y cynulliad. Dweud be’ oedd y crachach o Saeson yn meddwl o’r sefyllfa oedd e bryd hynny hefyd. Yn y rhaglen honno, fe gas e ei gyfweld o’r ‘London Eye’ reit i lan yn yr awyr yn edrych dros ogoniannau Llundain i gyd. Fe fyswn i wedi agor y ffenestr a’i dowlu fe i mas i’r afon Tafwys islaw.

Bues i dan glo yn y celloedd yn Nhy’r Arglwyddi un tro a dwyt ti ddim yn cael dim byd poshach na hynny, ond chlywid di mo fi’n mynd mlan ambiti’r bobl ffroenuchel y detho i ar eu traws nhw yn y fanna.

Pwnc arall a drafodwyd wedyn oedd cost uchel cadw anifeiliaid anwes. Yn y rhaglen hon, fe geson ni’r bleser o gwmni Mrs Miaou (!!) fel y mae hi’n cael ei hadnapod gan bawb a phobun yng nghyffiniau Dyffryn Nantlle. Cadw cathod y mae hi wrth reswm, a newydd gael profedigaeth wrth iddi golli un o’r chwe chath oedd gynti ddi. Edrych ar y cathod hyn fel pobl go-iawn oedd hi ac yn fodlon gwario’r hyn a oedd ei angen er eu mwyn. Fe ddylsa rhywun gael gair bach yn ei chlust. Rwyt ti’n gallu cadw ci ond rwyt ti’n was i’r gath. Nid creaduriaid cymdeithasol fel y cŵn ydyn nhw ac maen nhw’n gallach o gryn dipyn hefyd – weli di byth mo wyth o gathod yn tynnu car llusg trwy’r ffycin eira, neu’n aros o gwmpas ombai bod bwyd ar gael. Fe wnân nhw be fynnon nhw - ‘sda nhw ddim ffyc all o ots amdanot ti.

Wi ddim isha bod yn rhy gas at y greadures hon am iddi wneud imi wyrthin yn iach pan wetws hi bod ei chathod hi’n cael mynd mas pan fynnon nhw trwy iwso’r ‘pws-ddrws’. Sôn am y ‘cat flap’ yr oedd hi wrth gwrs – ond pws-ddrws ‘my arse’. Mae’r gair ‘na yn dal i’m goglais.

Person arall a glywais i ar y rhaglen hon, ond mae hyn yn mynd nôl sbelen erbyn hyn, oedd y diddanwr (?!) ‘na Stifyn Parri. Trafod yr ‘Eurovision Song Contest’ ôn nhw y tro hyn ac ynta’n gweid nad oedd e’n gallu barnu pwy mor dda oedd ambell i gân am nad oedd e’n deall yr iaith. Wi ddim yn mynd i weid gormod amdano fe - mae’n edrych imi fel y fath o berson sydd yn mynd i ‘gwglo’ ei enw ei hunan a gweld beth ifi'n ysgrifennu amdano a simo fi’n moyn ypseto neb. Ond am beth stiwpid i’w ddweud ontefe – fe wn i taw un gwael ydw i am ddadlau’n rhesymol pan fo rhywun yn gweid pethau hollol hurt ac rwy’n gwpod nad yw e ddim yn gall, rhesymol neu yn glyfar ond wi’n tueddu i’w galw nhw’n ‘prats’ neu ‘wankers’ – mae’n anodd meddwl am bethau eraill i weid weithiau.

6 comentarios:

Rhys Wynne dijo...

Glywes i ddim mo'r rhaglen ond dwi'n gwbod yn iawn pwy ydi'r Mr Miaw yna ti'n gyfeirio ati, mae hi'n wallgof. GWALLGOF!! Dwi wedi cwrdd â hi sawl tro mewn nosweithiau dysgwyr (Cymraeg), ble daeth i fwydro pobl yn racs.

Cer i Grafu dijo...

Roeddwn inna'n rhyw ama Rhys.

Rwy'n credu taw ei siort hi yw baramenyn Radio Cymru. Fe gei di gyfle i'w chylwed hi eto, mae'n siwr gen i :-)

Fe ddylsat ti ddechrau pwnc am gathod ar 'Maes -e'. Fe fydd hi yno fel 'whippet'!!

Anónimo dijo...

I think it's very puerile to talk of Stifan in that way.

Cer i Grafu dijo...

Fuck off!! - you Latin educated scholar you!! :-)

Rhys Wynne dijo...

Fel fasa Janice o Friends yn ddwued (nid bo fi erioed wedi gweld y rhaglen cofia)

OH - MY - GOD!

Dyma lun o Mrs Miaw

Cer i Grafu dijo...

Diolch o galon iti Rhys am y ddolen 'na. Ife Mrs Miaow sydd ar y chwith ne'r dde - wi wedi drysu'n llwyr!! -:)