Fe ymunon ni yn y ‘pub quiz’ nos Lun. Wast o amser oedd hwnna – does bron dim Saesneg sy’n werth sôn amdeni gyda Xosé neu Pablo ac roedd y cwestiynnau i gyd yn Brydeinig iawn eu naws. Fe gafwyd ‘bthdi 10 cwestiwn ynglŷn ag ‘Eastenders’ neu ‘Coronation Street’ ac rwyf inna heb weld y rhaglenni 'na ers oes yr arth a’r blaidd. Fe ddethon ni’r olaf ond un, ond fe geson ni lot fwy o farciau na’r Pwyliaid druan. Fe dreiais i roi help llaw iddyn nhw ag un cwestiwn ond y fath stŵr ‘ta’r Saeson wedyn - nhwtha’n gweid bod ni’n cafflo bla! bla! bla! Mae rhai pobl yn cymeryd y pethach ‘ma yn ormod o ddifrif.
Un o’r cwestiynnau ‘rhwydd’ ar y dechrau oedd i roi enw’r creadur oedd yn gadael arian o dan y gobennydd ar ôl i blentyn golli dant. Roedd Xosé yn gwpod beth oedd ei enw fe yn Gastilaneg – el ratoncito Pérez - a’r unig enw rown i’n gallu meddwl amdano a oedd yn debyg i hwnna yn y Saesneg oedd ‘Minnie Mouse’, ond ‘the tooth fairy’* yw e ac rown i’n gwpod ‘ny ar ol iddyn nhw ei weid e ar y diwedd. Fe fuon nhw yn eu dyblau’n chwerthin am ein pennau ni wrth inni gynnig yr ateb ‘na, pawb heblaw am y Pwyliaid wrth gwrs. Wi’n ofan bod y Saesneg yn prysur droi’n drydedd iaith sâl imi erbyn hyn.
Bu imi gymryd rhan mewn cwis ar Radio Cymru un tro ond mae hyn yn mynd nôl rhyw hanner canrif cyn dyfodiad teledu lliw. Cwis o gwestiynnau cyffredinol oedd e, a bu un rownd ar bwnc arbenigol o’ch dewis eich hun. Rownd Cymry Llundain oedd hwn. Bu raid i chwech ohonon ni fynd i Oxford Circus i bencadlys Corfforaeth y BBC er mwyn ei recordio. Fe ethon ni i gyd, greda i, yn meddwl y celen ni bach o bwffe a diod, ond ffyc o ffyc all geson ni.
Dau dîm o dri oedden ni a digwydd napod pump o'r bobl eraill own i ac felly, fe benderfynson ni na fysa’r un ohonon ni yn dewis pwnc arbenigol rhy academaidd a thrial bod yn ben bach - ond mae pobl yn gallu bod yn slei ond ŷn nhw.
Dyma ni’n cyrraedd y rownd arbenigol a beth yw pwnc arbenigol y ddau arall ond un yn dewis hanes ffasgiaeth yn yr Eidal a’r llall yn moyn ateb cwestiynnau ar ganu tywyll rhyw fardd neu’i gilydd. Pan ddath fy nhro i, bu raid imi weid yn gyhoeddus taw fy mhwnc arbenigol i oedd ffilmiau Marilyn Monroe – y fath gywilydd yn y fath sefyllfa ac rown i wir isha ei gwân hi oddi yno.
Diwedd y cwis fu ifi ddod yn drydydd mas o’r tri ohonom yn ein rownd ni, ond fi gas fwy o gwestiynnau cywir ar y pwnc arbenigol, felly fe hoffwn i ddiolch iti Norma Jean a gobeithio iti gael dy ‘hedd perffaith hedd’, ac i’r diawl â chi Gwenllian ac Arfon!
Mae ‘na ryw fath o gwis ar Radio Cymru ar hyn o bryd. ‘Y Plismon Iaith’ yw enw’r rhaglen a rhyw gwis ynglŷn â diarhebion a geiriau tafodieithol a’r math yna o beth yw e. Nid cwis go iawn yw e ychwaith ond rhyw deip o ddyfalu rhwng ffrindiau ar ôl i’r boi ‘na Vaughan Hughes osod rhyw bos neu gliw iddynt. Pobl enwog yw’r bobl sy’n cymryd rhan - Elinor Jones yw un o’nhw a’r Mr. Picton ‘na off y gyfres C’mon Midffild yw un arall ac mae ‘na foi arall wedyn nad oes clem gen i pwy ffwc yw e.
Yr ateb i un cwestiwn oedd y ddihareb ‘un wennol ni wna wanwyn’. Sai’n cofio be’ oedd y pos i gael yr ateb ‘na i ddechra, ond bu imi fwrw’r hoelen ar ei phen heb feddwl ddwywaith - ar ei ben, yn syth bin, straight away – ond bu i Elinor roi cynnig arni o leia pum gwaith cyn ei chael hi, un ateb anghywir ar ôl y llall; roedd hi’n bownd o’i chael hi yn y diwedd ac fe fues i’n gweiddu’r ateb arni hi nerth fy mhen cyn i’r peth shinco i mewn i’w phen hi a hitha’n ei chael hi’n iawn.
Dylsan nhw fod wedi fy ngwahodd i ar y rhaglen honno – byswn i’n ei hennill hi’n ‘hands down’ wrth wrando ar y gystadleuaeth – dim probs, easy peasy, piece of piss!!
*A oes ‘na ddywediad yn y Gymraeg am y ‘tooth fairy’. Chlywais i erioed am y fath beth. Efallai ifi gael dannedd gwell na’r rhelyw ond cheso i erioed mo’r ddimai goch am golli dant.
2 comentarios:
Ces i brofiad tebyg wrth chwarae Trivial Pursuit yn Sbaen...o'n i'n disgwyl y fersiwn rhyngwladol nid un cenedlaethol yn gofyn cwestiynau am hen raglenni teledu Sbaen!
Tylwyth Teg y Dannedd?!
Publicar un comentario