domingo, 26 de agosto de 2007

Y parti penblwydd


Fe ethon ni i barti penblywdd yn y dafarn ‘ma yn Kings Cross neithiwr. Digwydd pasio’r dafarn wnethon ni. Doedd yr un ohonon ni’n napod y boi neu wedi cael gwahoddiad, ond fe gerddon ni i mewn i’r dafarn yn gweid ‘shwmae’ wrth y bobl oedd ar y drws fel pe tasen ni i fod yno. Wi wastod wedi ffindo bod hwnna’n gweithio’n iawn. Os wyt ti’n tin-droi ac yn edrych fel llo ar goll, rwyt ti’n siwr o gael dy herio.

Lle digon mawr oedd y dafarn a bu bwffe ar gael. Dim ond £1.50 oedd pob peint!! ac felly fe feddwon ni’n rhacs a saco’r bola’n dynn â’r stics ‘na sydd a chwlffyn o gaws a ‘pickled onion’ arnyn nhw. Noson eitha da ar y cyfan. Yr unig beth aeth o’i le oedd y boi ‘ma yn cynnig y ‘K’ ‘ma imi – rown i’n meddwl ei fod e’n cynnig un o’r losins M&M’s imi, y rhai sydd â ‘peanut’ a rhyw gandi o’u cwmpas nhw. Fel mae’n troi mas, math o gyffur oedd e ac fe wetws Xose wrtho i’r bore ‘ma taw rhyw deip o ‘horse tranquilizer’ yw e ac mae hynny’n gwneud sens. Ar ddiwedd y noson, fe fuws rhaid inni ddala tacsi sha thre – rown i’n ffilu rhoi un droed o flaen y llall a bach yn sigledig ar fy nhraed ydw i heddi ‘ed.

Fe gafwyd sioe ddrag am hanner nos a’r ‘drag queen’ ‘ma yn mynd trwy ei phethau. Roedd yn eitha doniol a gwed y gwir. Y tro diwetha imi weld ‘drag queen’ oedd gartre yn y ‘Miners Institute’. Roedd Mr Caradog Evans ‘Brynawelon’ yn gwisgo lan pob nos Sadwrn a chanu a gweid jocs. Mae fe’n byw yn ‘Brighton’ erbyn hyn. Fe redodd e off gyda’r plymiwr a ddaeth i’r tŷ i gyweirio’r tap. Bu hwnna’n sgandal yn y cwm ‘co am fisoedd bwy gilydd. Roedd Mrs Evans yn tampan ac yn gweid wrth unrhywun a fysa’n fodlon gwrando arni hi ‘bod hi’n wir obeithio bod ei gariad newydd e’n rhwygo ei din e’n rhacs. Sai’n credu ‘bod hi’n ei meddwl hi o ddifrif. Mae pawb yn gweid pethau cas mewn tymer ontefe, ond mae amser yn gwella pob clwyf – wel y rhan fwya ohonyn nhw ta p’un i.

Wi’n mynd i gael wythnos dawel nawr. Fe etho i i adran plant y llyfrgell leol echddo a chael gafael ar dri llyfr o’r gyfres ‘Alfred Hitchcock and The Three Investigators’. Llyfrau i blant ydyn nhw ond rwyf yn eu mwynhau nhw. Wi’n sylwi bod ambell i flogiwr yn rhoi rhestrau o’r llyfrau y maen nhw wrthi’n eu darllen. Llyfrau academaidd neu glasuron llenyddiaeth ŷn nhw bob cynnig. Wyt ti’n meddwl ‘bod nhw gwed calon y gwir. Mae i weld imi fel y gwesteion ar y rhaglen ‘na ‘Desert Island Discs’ ar radio 4. Mae’n nhw gorffod dewis recordiau i fynd â nhw ar ynys ddiarffordd unig. Mae’r dewisiadau wastod yn cynnwys ‘Beethoven’s 5th symphony’ neu rhyw ganeuon esoterig. Mae’n siwr gen i pan fo nhw gartref, maen nhw’n gwrando ar ‘Madonna’ neu’r gân ‘na biti’r ‘polka dot bikini’. Efallai taw rhyw hen sinig ydw i.

Wi’n mynd i wrando ar ‘Caniadaeth y Cysegr’ ar Radio Cymru mewn munud, ac mae SinLaMula wedi rhoi cyfresi lawer o Superman y cartwn ar y we, felly wi’n mynd i wylio’r rhain wedyn. Un da yw Superman ond un bach yn dwp yw Lois Lane ei gariad. Yn y byd go iawn Clark Kent yw Superman, ond simo Lois druan yn gallu gweld taw’r un person yw e. Yr unig beth mae Superman yn ei wneud yw gwisgo siwt amdano a rhoi pâr o sbectol am ei drwyn ac mae fe’n ei thwyllo hi’n llwyr. Am dwp ontefe, ond wedi gweid ‘na roedd Caradog Evans yn newid i mewn i ffrog menyw pob nos Sadwrn a wnaeth e byth groesi meddwl Mrs Evans y gallai fe redeg off gyda dyn arall rhyw ddiwrnod. Dyw rhai pobl ddim yn gweld pethau sydd mor amlwg â thrwyn ar wyneb dyn.

2 comentarios:

Huw dijo...

Y 'K' na yw Ketamine.

http://en.wikipedia.org/wiki/Ketamine

Cer i Grafu dijo...

Ife am dy fod di'n astudio ffiseg yw hwnna Huw ne' wt ti wedi ei dreial e?!! -:)