lunes, 27 de agosto de 2007

Y cyfieithydd

Dyma fideo a wnaeth imi bisho werthin. Mae'r fenyw yn cyfieithu?! i saith o ieithoedd mewn cyfarfod ac yn llwyddo i sarhau pob un person yno. Mae'n bell o fod yn wleidyddol gywir.

2 comentarios:

Bonheddwr dijo...

Falle fod angen geiriadur Sbaeneg arni? ;-)

Sut mae'r gwaith yn dod yn ei flaen? Pa lythyren wyt ti wedi cyrraedd erbyn hyn?

Cefais di fyth nawdd??

Cer i Grafu dijo...

Wi wedi bod braidd yn esgeulus yn ddiweddar Hedd - mae'r we 'ma wedi citsho gormod yndo i ac mae hyd yn oed 'porno' i gael am ddim - ot ti'n gwpod hwnna?

Wi wedi bennu'r llythyren A heblaw am ryw bach o dwtio fan hyn fan draw ac wi wrthi ar y B. Mae'r A dros 120 o dudalennau erbyn hyn ac mae'r Briws ond yn 91 tudalen a'r llythyren A!!, felly fe dyfodd e er fy ngwaetha.

O ran cael nawdd, cheso i ffwc - dim hyd yn oed ateb gan rai pobl. Efalla bod nhw'n meddwl 'bo fi yn bach o 'nyter' wn i ddim.

Fe wna i ela copi print a disc atot cyn bo hir er mwyn iti eu cadw'n saff imi. Mae'r beiliaid yn agosau at y drws am y ffycin peth council tax 'na ac os bachan nhw'r cyfrifiadur, fe fydda i'n colli popeth a bron yn amhosibl fydda ail-ddechrau.

cofion iti foi

ceri