jueves, 23 de agosto de 2007

Newid iaith


Wedi mynd yn gaeth i’r gyfres Desperate Housewifes ydw i nawr. Fe ddechreuais i weld y gyfres gyntaf ddoe ac erbyn hyn dw i ar y trydydd tymor. Wi’n gwylio un ar ôl y llall ac erbyn hyn mae’n siwr gen i fy mod i wedi gweld mwy nag ugain awr ohoni. Wi’n dwli arni ac yn arbennig ar y fenyw Bree sydd bach â’i thrwyn i lan ei thin ond yn hoffus, doniol ac yn agos atot ti er hynny – yn y llun hi yw’r un pen coch yn y cenol gyda llaw. 40 munud yw pob pennod ond mae wedi’i sgriptio a’i chynllunio’n dda digynnig ac mae'r amser yn hedfan.

Fel rwyf wedi sôn hyd at syrffed, mae’n siwr gen i, rwy’n gweld y pethau ‘ma i gyd ar SinLaMula. Wedi eu dybio i’r Sbaeneg maen nhw ar y wefan hon, ond mewn ambell i bennod mae’n bosibl newid yr iaith i’r Saesneg os wyt ti’n mynd at y dewis ‘audio’. Dôn i ddim yn gwpod hynny nes i’r iaith newid, oherwydd rhyw nam neu'i gilydd, o’r Sbaeneg i’r Saesneg hanner ffordd trwy un bennod yn hollol ddi-rybudd. Rhyfedd oedd clywed y cymeriadau’n siarad Saesneg wedyn. Roedd hi fel eu bod nhw’n bobl wahanol a finna’n eu gweld nhw’n mewn golau arall. Mae hwnna’n wir ontefe. Rwy’n cofio clywed fy ffrind Aeron yn siarad Saesneg am y tro cyntaf. Roedd ei acen e yn y Saesneg mor gywrain a’i iaith e mor gain fel roedd e fel gwrando ar rywun arall nad own i’n ei napod.

Wrth sôn am newid iaith, peth arall sy’n anodd iawn yw croesi’r bont honno gyda rhywun ti’n napod. Fe ofynnws Pablo imi ei helpu fe ’ta ei Saesneg un tro a siarad ag ef yn y Saesneg am bum munud. Ar ol munud o hyn, dyma fe’n gweid wrtho i nad oedd e ddim isha ei wneud e ragor am fy mod i’n swnio’n stiwpid yn siarad Saesneg ag ef ac y bysa fe’n well ganddo fe ei wneud e gyda rhywun nad oedd e’n ei napod.

Mae dechrau’r daith o ddysgu iaith newydd yn anodd. Mae pobl yn dueddol o feddwl nad oes fawr o bersonoliaeth gyda thi ac a gwed y gwir anodd yw napod rhywun go iawn nes eu bod nhw wedi meistroli’r iaith yn ddigon da. Mae dy bersonoliaeth di ynghlwm wrth dy iaith a dy ffordd o fynegi dy hunan a nes bod gafael sicr gen ti ar iaith newydd, hanner neu chwarter y person y mae pobl yn ei weld. Mae angen lot o gryfder i rywun ddal ati i siarad iaith newydd am fod pobl ond yn gweld yr hanner berson ‘na nes bod ei feistrolaeth arni yn gadael i'r wir berson ymddangos.

Yng Nghymru mae’r broblem yn fwy i’r bobl sydd yn moyn dysgu Cymraeg am ein bod ni’r Cymry yn medru’r ddwy iaith. Dyna pam mae llawer o Gymry Cymraeg yn mynnu siarad Saesneg â nhw – haws o lawer yw hi i ddod i napod y person yn iawn. O leiaf nid wyf i mor wael â hynny - fe fyswn i'n siarad a nhw yn y Gymraeg pe 'tasan nhw cael gafael arno i, ond rwy'n dueddol o’u hosgoi nhw fel y pla.

Mae gen i lot o barch tuag at athrawon Cymraeg a’r bobl sy’n fodlon helpu’r bobl ‘ma ar y daith. Gwir gymwynaswyr y Gymraeg ydyn nhw. Maen nhw’n helpu mewn sefyllfa anodd sydd angen uffach lot o fynadd a dealltwriaeth.

No hay comentarios: