jueves, 30 de agosto de 2007

Viva la Revolucion


Fe geson ni bach o shyffwffwl heddi. Fe ddaeth y beilïaid heibio – moyn cymeryd pob un dim oedd gynon ni o’r teli i’r soffa ac unrhywbeth arall a fysa’n talu am y ffycin ‘council tax’. Cheso i mo fy ngeni ddoe ac doedd ffordd yn y byd ‘rown i’n mynd i agor y drws iddyn nhw.
.
Dyma’r idiotyn yn gweid wrtho i:-

We know you’re in there so open the door.

Dyma fi’n ei ateb e nôl:-

We know you’re there as well, so you’re not that fuckin’ clever - so fuck off!.

Does na ddim byd y gallen nhw ei wneud ti’n gwpod. Mae’n rhaid dy fod ti wedi gadael rhywpeth ar agor, fel y drws wrth gwrs os wyt ti’n ddigon stiwpid, neu‘r ffenestr ac fe wnân nhw ddringo i mewn i’r ffenestr - y diawliaid dienaid ag ŷn nhw.

Rŷn ni’n byw ar y chweched llawr mewn bloc o fflatiau ac nid y ‘Fantastic Four’ ydyn nhw, felly doedd posib iddyn nhw ddod i mewn.

Wi’n gwpod y dylswn i dalu am y ffycin peth ond iesgyn, mae bywyd yn ddigon byr fel ag y mae, a phe taswn i’n marw hanner ffordd trwy’r flwyddyn, wi’n ama’n fawr y byswn i’n cael ad-daliad – rwy’n gwpod nad yw hwnna’n rheswn am beidio a'i dalu fe am y bum mlynedd diwetha, ond mae’n gas gen i dalu am betha nag own i’n moyn yn y lle cyntaf - Viva la revolución!!

2 comentarios:

Hogyn o Rachub dijo...

Hwre! Pob lwc! Dw i llawer gormod o gachwr i wneud y ffasiwn beth ... fysa Mam yn lladd fi ...

Cer i Grafu dijo...

Fe geso i 'tax rebate' amser Nadolig a fysa wedi bod yn ddigon i dalu'r ddyled ar y 'council tax' ond fe bryniais i gliniadur yn lle ei dalu fe.

Nid dewr ydw i ond bach yn 'hunan ddinistriol' glei!