miércoles, 22 de agosto de 2007

Giamocs y meirwon


Wi wedi mynd yn gaeth i’r cyfresi teledu ar SinLaMula erbyn hyn ac un rwy’n eitha hoff ohoni ar hyn o bryd yw’r gyfres ‘Six Feet Under’. Yn ôl y ‘wikepedia’, fe ddechreuws y gyfres ‘ma yn 2001 ond un ar ei hôl hi y bues i erioed. Rhaglen am y teulu ‘ma sy’n rhedeg parlwr angladdau yn yr Unol Daleithiau yw hi ac mae ‘na eitha tipyn o hiwmor du yn perthyn iddi.

Mae pob un bennod yn dechrau â marwolaeth rhywun ac mae hwnna’n rhyw fath o gefndir i bob stori wedyn. Ar ddechrau un bennod dyma’r boi yn treial lladd ei hunan. Mae fe’n mynd i dop clogwyn a chlymu un ran o’r rhaff ‘ma o gwmpas ei wddwg a’r pen arall o gwmpas y graig ‘ma. Dyma fe wedyn yn yfed ychydig o wenwyn ac yn ei roi ei hunan ar dan cyn ei daflu ei hunan off y dibyn. Yn anffodus, mae’r rhaff yn torri ac mae fe’n plymio i mewn i’r môr lle mae’r dŵr yn diffodd y fflamau ac yn peri iddo fe chwydu’r gwenwyn i lan. Mae fe wedyn yn cael ei lusgo allan o’r môr gan y pysgotwyr ‘ma gerllaw ac maen nhw’n mynd ag ef i’r ysbyty lle mae’n marw o ‘hypothermia’.

Mae hwnna bach yn anodd ei gredu ond yw e, ond mae pethau rhyfeddach yn digwydd. Dyma rywbeth a ddarllenais yn y ‘London Lite’ ryw ychydig yn ôl – yn wir iti, cris croes tân poeth:

A terrible diet and room with no ventilation are being blamed for the death of Michael Franklin, who was killed by his own body gasses. There was no mark on his body, but an autopsy showed large amounts of methane gas in his system. His diet had consisted primarily of beans and cabbage.
.
It was just the right combination of foods to produce these gasses and it appeared that the man died in his sleep from breathing in the poisonous cloud that was hanging over his bed.
.
He was a very big man with a huge capacity for producing this deadly gas. Three of the rescuers got sick and one of them was hospitalised!

Un peth a ddysgais i wrth wylio’r gyfres ‘ma yw ei bod hi’n wir bod cyrff y meirwon YN cadw sŵn. Wrth bod yr holl nwyon yn casglu yn y corff mae’r person yn dechrau rhechain a grwgnach ac weithiau’n symud rhyw ychydig. Mae’n ddigon i roi harten i ddyn ond yw e.
.
Yn waeth na hynny, mae’n wir yn ôl pob sôn bod dyn yn cael min ar ei bidyn os yw e’n ei grogi ei hunan neu’n marw mewn amgylchiadau treisiol iawn. Simo fi'n moyn bod yn ben bach ond fe fysan nhw'n ffilu rhoi'r clawr ar yr arch 'tasa hwnna'n digwydd imi. Y fath gywilydd ontefe - fel nad oedd marw yn ddigon ynddo’i hun!

Peth difrifol ar y naw yw’r busnes marw ‘ma. Fe wna i dreial cadw fy nhraed ar dir y byw cymaint ag y galla i glei!

No hay comentarios: