lunes, 20 de agosto de 2007

Copish a balog


Wi heb roi pin ar bapur ers sbelen a meddwl y dylswn i wneud blog 'roeddwn i. A gwed y gwir wrthot ti, rwyf wedi ysgrifennu sawl un yn fy meddwl ond heb ei roi ar ‘blogger’ ac erbyn hyn, rwyf wedi anghofio be’ rown i’n mynd i weid ta p’un i. Wi’m isha bod yn un o’r rhain sy’n dychra blog a’i bennu ar ôl mis, ond mae rhaid imi bwsho’n hunan erbyn hyn.

Wedi bod a’r felan arno i ryw ychydig. Fe ddaliais i fy mhidyn yn fy nghopis ryw wythnos yn ôl – peth stiwpid i’w wneud wi’n gwpod. Digwyddws union yr un peth imi pan own i’n grwtyn deuddeg oed a byth oddi ar ‘ny ifi’n gwigso trwser â bwtwnau i gau’r copish i lan, ond wythnos ddiwetha fe welais i bar o jîns ffantastig am £3.00 yn ‘Peacocks’ yn yr ‘Arndale Centre’ yn ‘Wandsworth’ ac fe brynais i nhw er gwaetha’r ffycin zip.

Bu raid i Xosé ffono’r ambiwlans, ac am fod ei Saesneg e mor wael, fe gyrhaeddson nhw’n gloi iawn yn meddwl bod rhywun ar fin marw. Fe wedodd y boi ambiwlans imi wedyn y dylswn i fod wedi cael torri fy mlaengroen ers yn blentyn ac ni fyddai rhaid gwastraffu eu hamser nhw ar bethau pitw. Efallai bod y peth yn bitw iddo fe ond mae fy mhidyn a’i flaengroen yn bwysig iawn imi.

Fe wna i flogio’n rheolaidd pan ifi’n teimlo’n well.

1 comentario:

Nwdls dijo...

Aw. Cydymdeimlaf.