sábado, 11 de agosto de 2007

Asesino en serie 1 - Y Cigydd


Dyma lun o’r cigydd. Fe’i gelwir yn ‘alcaudón’ yn Sbaeneg a ‘shrike’ yn y Saesneg ac mae fe’n dod o deulu’r laniideu neu’r cigyddion. Fe gei di’r cigydd pengoch, y cigydd cefngoch, y cigydd glas a nifer o rai eraill. Diawl o aderyn yw hwn ac mae ‘na fideo ohono fe wrth ei waith o dan y blog hwn.

Fe weli di’r cigydd yng nghoedwigoedd ardal Môr y Canoldir a llefydd eraill am a wn i. Dyw e fawr fwy na maint dryw, ond heliwr sadistig ar y naw yw e. Fe wnaiff e ymosod ar rywpeth – llygod ffrengig, adar eraill a hyd yn oed sgorpions a nadroedd. Mae fe’n mynd â’i helfa at ryw goeden neu’i gilydd wedyn ac yn ei hoelio hi ar bigau’r drain er mwyn ei bwyta hi’n well. Mae fe’n troi’r golfen ‘ma yn rhyw fath o bantri iddo fe ei hunan ac fe gei di’r cyrff yn hongad off y drain ‘ma dros y goeden i gyd. Wi’n gwpod bod y llew weithiau yn mynd a’i helfa i lan coeden er mwyn ei chatw hi iddo fe ei hunan ond mae’r aderyn ‘ma yn mynd yn bell dros ben llestri. Meddylia pe baset ti’n mynd am dro yn y goedwig gyda dy blant di a dod wyneb yn wyneb â’r goeden ‘ma llawn cyrff anifeiliad - fe fysat ti’n meddwl bod ‘na seremoni satanaidd wedi digwydd.

Mae Pablo yn gweithio i’r ‘Consejería de Educación’ yma yn Llundain ac fe ddath e gartref un diwrnod a llwyth o fideos a wnaeth y naturiaethwr ‘ma o’r enw Félix Rodríguez de la Fuente a dyna sut wi’n gwpod am yr aderyn hwn. Naturiaethwr ac ecolegydd enwog oedd Félix - rhywun reit debyg i David Attenborough ym Mhrydain. Fe fu e farw ym 1980. Roedd e wrthi’n ffilmio’r ‘Iditarot’ yn Alaska. Ras ceir llusg a dynnir gan gŵn yw’r 'Iditarot' ac ychydig cyn esgyn ar yr awyren fach i ddechrau ffilmio, dyma fe’n gweid ar gamera taw lle delfrydol i farw fyddai’r rhan honno o Alaska a hynny a ddigwyddodd iddo fe wrth i’r awyren ffrwydro yn yr awyr. Felly gad i hwnna fod yn wers inni i gyd i beidio â themtio ffawd ontefe.
.
Clip yw’r fideo isod o un o’i raglenni – El hombre y La Tierra (dyn a’i gynefin). Gwylia ryw funud a hanner ohono fe ac fe gei di weld sut un yw’r aderyn hwn. Alla i mo’i watsho hi ragor - mae’n ela’r aeth arno i. Well o lawer gen i weld yr hen ‘wilderbeest’ truain yn cael eu cwrso a’u lladd gan y llewod na gweld y diafol corfforol hwn wrth ei waith.

No hay comentarios: