jueves, 12 de julio de 2007

'Router' ar werth


Bu gen i ychydig o broblemau ‘ta’r cysylltiad rhyngrwyd ddoe – roedd e’n pallu dod ymlaen. Wi’m yn deall rhyw lawer am bethau cyfrifiadurol, felly ffoniais i’r llinell gymorth - er wedi gweid ‘na ifi yn gallu rhoi’r lluniau bach pert ‘ma wrth ochr fy mlogs erbyn hyn. Mae’r llinell ‘ma naill ai’n dy gysylltu di â rhywun yn Bradford neu ym mhellafoedd India. Wn i’m pa un ond fe geso i uffach o drafferth i ddeall y boi ‘ma. Bu raid imi ofyn iddo fe ail-adrodd popeth o leiaf dwywaith os nad teirgwaith. Roedd y broblem yn un dechnolegol hefyd, felly doedd hwnna fawr o help ifi ddeall be’ oedd e’n treial ei weid.

Dyma fe’n treial fy arwain i drwy ryw broses i weld beth oedd ar fai – bu raid ifi wasgu’r botwm hwn a’r botwm llall ac wedyn dyna fe’n gofyn imi weid wrtho fe beth oedd y bocs oedd i fod i ddod lan yn ei ddweud. Wi wedi rhoi’r rhyngwyneb yn y Gymraeg ar y cyfrifiadur, a doedd syniad gen i sut oedd cyfiethu’r ‘jargon’ technolegol 'ma i’r Saesneg, felly fe wedes i wrtho fe yn y diwedd i weid wrtho fi be ddylai fe weid yn y Saesneg a byswn i’n gweid os taw rhywbeth tebyg oedd hi yn y Gymraeg – doedd hi ddim wrth gwrs.

Fe fuon ni dros hanner awr yn treial sorto rhywbeth mas, a dyma fe’n gweid wrtho i ar y diwedd taw rhywbeth yn bod ar y ‘router’ oedd y broblem a bysa fe’n ela un newydd mas ato i. Wel, dyma’r union ‘router’ wnaeth BT weid wrtho i oedd am ddim pan seines i lan ‘da nhw ond bu raid im dalu £25 amdano fe ar y bil cyntaf. Pan wnetho i achwyn yn ei gylch e, dyma nhw’n gweid wrtho fi y bysa fe wedi bod am ddim ‘taswn i wedi ei archebu fe dros y rhyngrwyd, ond doedd dim rhyngrwyd gen i bryd hynny – dyna pam own i’n seino lan ‘da nhw!! Wnaiff y banc ddim gadael imi gael cardiau credyd ta p’un i, felly bysa hwnna wedi bod yn ‘non starter’. Mae shwt ffycin wyneb digywilydd ‘da BT – mae’n gas ‘da fi’r bastardiaid.

Pan ddaw’r ‘router' newydd, bydda i’n gweid ‘bo fi wedi ela’r hen ‘router’ nôl ac os nad yw e wedi cyrraedd, eu problem nhw yw e! Fe wna i dreial cael bach o’r £25 nôl yn y ‘car boot’ ‘dag e brynhawn Sul wedyn.

Roedd y boi ‘ma yn gyfoglyd o boleit ar y diwedd ac yn gofyn imi a oedd unrhyw beth arall y galle fe ei wneud i’m helpu, felly fe geso i bach o rant biti BT yn gyffredinol a gweid wrtho fe bod ‘Word’ yn neidio dros y lle i gyd pan ifi’n treial ysgrifennu rhywbeth a ‘bod hi’n cymeryd uffach lot o amser i bwffro’r videos porno ar ‘X tube’ ond wnath y llinell fynd yn farw pan own i ar gefn fy ngheffyl ac amhosibl fu cael ail-afael yndo fe.

Ar ddiwedd y dydd, dechreuais i roi cwpwl o glowts i’r ‘router’ i dreial ei gael e i weithio ac fe sylwais i fod ‘na dwll bach yn gweid ‘reset’ yn y cefn, felly wpais i fatsen lan tin hwnnw a chredi di byth mae’r ffycin peth yn gweithio nawr. Doedd y boi ‘na ddim yn gwpod be’ ffwc oedd e’n siarad biti fe – mae gwasanaeth BT yn shit gachu.

No hay comentarios: