Fe etho i i’r deintydd ‘ta Pablo heddi. Bysa fe’n gallu mynd ar ei ben ei hunan ond mae ofn y diawl arno fe na fydd e’n deall be’ mae’r deintydd yn ei weid wrtho fe. Own i gyda fe yn dala ei law e fel rhyw hen fam yn carco ei phlentyn. Roedd e’n crynu fel deilen ond ‘tasat ti wedi gweld seis y nodwydd oedd ‘da’r deintydd ‘ma, bysat ti’n crynu hefyd.
Rôn nhw wedi rhoi’r peth ‘ma yn ei geg e i’w ddala fe ar agor ac roedd e’n edrych arno fi fel rhyw anifail yn cachu bric mewn rhyw gaets syrcas. Roedd y deintydd wedi gweid wrtho i i weid na fysa’r nodwydd ‘ma ddim yn brifo, ond dôn i ddim yn ei gredu fe o gwbl, felly wedes i wrth Pablo fod y peth yn mynd i frifo fel ffwc ond iddo fe beidio â phoeni, fe gelai fe ddannedd fel Tom Cruise ar ei diwedd hi. Doedd hwnna ddim wedi helpu rhyw lawer a gwed y gwir a dechreuws e grynu hyd yn oed yn fwy. Bu rhaid imi edrych bant a whislo wrth fy hunan i beidio â meddwl am y peth.
Mae’r lle deintydd ar bwys yr ‘Asparagus’ yn Battersea, ac own i angen rhywbeth i yfed ar ôl y ‘trauma’ ‘na, felly ethon ni i mewn i gael peint neu ddou. Fe wedodd y deintydd na ddylsai Pablo yfed am sbelyn ond wnetho i ddim cyfiethu’r darn ‘na. Un o dafarndai Wetherspoons yw hi, felly mae’n weddol o rad ac maen nhw’n agor yn gynnar. Roedd hi ond yn 10 o’r gloch ond bu’r lle yn eitha llawn. Hen ddynion sydd ‘na fel arfer yn diengyd rhag eu gwragedd. Mae’n fy atgoffa i o’r cymoedd ar ryw ystyr.
Mae pawb yn ein napod ni yn y fanna am ‘bod ni’n mynd ‘na’n reit aml. Maen nhw’n meddwl taw o Sbaen ydw i hefyd, a dw i jwst yn wara mlan ‘ta nhw. Maen nhw wastod yn gweiddu ‘viva españa’ arno i a rhoi eu dwylo ar dop eu pennau nhw i esgus bod yn deirw a gweiddu ‘ole!’. Wn i’m be’ sy’n bod ar y Saeson - maen nhw fel ‘tasan nhw'n meddwl taw pallu siarad Saesneg yw cyfystyr â bod yn dwp.
Trwy ras Duw mae gyntyn nhw ryw fath o ‘beer garden’ yn y cefn, felly oen ni’n galler mynd i’r fanna am fwgyn. Fel arfer mae Pablo, ac mae Xosé yr un fath, yn lico sefyll wrth y bar ac mae’n gas gen i wneud hwnna. Mae Pablo ond biti dwy droedfedd o uchder – hynny yw un bach yw e, un o’r corachod a ddihangodd o’r goedwig hudolus. Ifi’n reit tal fy hunan a gwastod mae rhywun yn gofyn a odyn ni’n efeilliaid neu beidio – mae ‘na ddiffyg gwreiddioldeb reit ddifrifol ‘ta’r Saeson ‘ma weithiau. Ta p’un i, nawr nad oes gobaith smoco wrth y bar rŷn ni’n ela lot fwy o amser yn y ‘beer gardens’ ‘ma neu ar y pafin tu fas. Rhaid edrych ar yr ochr orau i bethau weithiau ‘sbo.
No hay comentarios:
Publicar un comentario