jueves, 12 de julio de 2007

The Jungle Book - I Wanna Be Like You (German)

Meddwl taw amser am gân oedd hi. Hon oedd fy ‘party piece’ yn fy ieuenctid ffôl. Fersiwn o gân allan o’r 'Dshunglebuch' yw hi yn Almaeneg ac yn yr Almaeneg y dysgais i ei chanu hi. Er nad ydw i’n deall dim Almaeneg mae hon yn reit hawdd i’w dysgu. Mae ‘na lot o ‘dubbie does’, esgus canu trwmped, wislan, dawnso dros ben llestri a gwneud prat o dy hunan, ond fe geso i lot o beints am ei pherfformo hi ac mae’n gân y gall pobl uniaethu ag e ac ymuno i mewn.

Fe wnetho i ‘berfformo’ unwaith yn yr Arndale Centre, Wandsworth pan oedd Michael Barrymore yn recordo un o’r rhaglenni ‘na oedd e’n arfer gwneud mewn canolfannau siopa ond fe wnetho i ollwng fy nhwrser ar y diwedd fel mae’r arth Baloo yn ei wneud yn y gân a phenderfynon nhw nad oedd e’n addas ar gyfer cynulleidfa oriau brig. Fe wedodd Mr Barrymore ifi fod yn dda iawn hefyd ond own i’n gwpod ‘na! Mae rhai pethau rwyt ti jwst yn gwpod sy’n dda ontefe. Efallai ca i gyfle arall i gyrraedd y teledu ryw ddydd!

No hay comentarios: