martes, 17 de julio de 2007

Ras y teirw


Mae mam Pablo YN dod i aros ond fydd hi ddim yma tan ddydd Gwener ac mae hi’n mynd erbyn dydd Llun, felly ymweliad byr fydd hi, diolch byth.

Dyma lun ohoni yng Ngŵyl San Fermín yn Pamplona yng Ngwlad y Basg a gynhaliwyd ddechrau’r mis. Cymryd rhan y mae hi yn yr ‘Encierro’ neu ryw fath o ras y teirw lle mae’r bobl yn rhedeg bant nerth eu traed o flaen y teirw ‘ma ar hyd strydoedd yr hen dref.

Twristiaidd yw llawer o’r bobl ‘ma – mae’r Basgiaid yn lot rhy gall i ymuno yn y dwli ‘ma, er eu bod nhw’n cael modd i fyw yn gweld rhai o’r bobl ‘ma yn cael eu cornio gin yr anifeiliaid hyn.

Reit dansherus yw’r peth ‘ma i gyd, fel y gelli di feddwl, ac mae rhywrai wedi cael eu lladd hyd yn oed. Mae mam Pablo yn cael pleser arbennig yn topi’r Americanwyr am ryw reswm. Mae hi’n gweid wrtho i nad yw hi erioed wedi cael gafael â’i chyrn hi yn yr un Cymro eto. Fysa hi ddim yn cael cyfle i wneud hwnna ‘da fi – faswn i’m yn croesi ei ffordd hi am yr holl de yn Tseina

No hay comentarios: