Rown i’n mynd i ysgrifennu ‘biti hwn sbelen yn ôl ond fe aeth y peth yn angof gen i. Gweld Aled Price, golygydd y Byd, yn siarad ar y tele biti’r papur newydd ‘Y Byd’ a’r ffaith ei fod e’n dod mas y flwyddyn nesa y gwnetho i.
Wel, ti’n gwpod be’, wi’n credu own i yn y Coleg yn Aberystwyth biti’r un amser ag Aled. Mae’n siwr gen i na fydd e’n fy nghofio i, ond wi'n siwr y ceson ni sgwrs rhyw ben yn y Llew Du neu’r capel, a mwy nag unwaith hefyd – y Llew Du siwr o fod - wi erioed wedi tywyllu drws capel ond bid a fo am hwnna.
Un am siarad y bues i erioed ac fe wna i siarad ag unrhyw un. Un o Gaerdydd yw Aled, rwy’n credu, ac fe wna i siarad a’r rhain hefyd, felly mae’n eitha posib. Fe brynais i’r llyfr gwych ‘na ‘The Welsh Extremist’ flynydda nol gan Ned Thomas hefyd, ac mae fe yn un o gynnau mawr y Byd fel rwyf inna’n ei deall hi.
Meddwl own i, os bydda i’n wara fy nghardiau i’n iawn, fe wnan nhw rhoi ryw golofn imi- mae’n rhaid bod y cysylltiadau 'na yn cyfrif am rywpeth. Fe alla i fy ngweld fy hun yn gwneud rhyw ‘thought for the day’ ne’ rywpeth tebyg.
Un o deulu reit meddylgar odw i ac mae pob wan jac ohonom ni yn meddwl yn eitha dwys am bethau eitha pwysig y byd a’i fetws, er bysa pobl eraill yn anghytuno.
Fyswn i ddim mor gomon a’m motryb Eileen - roedd hi’n dueddol o weid petha fel bod sielffo yn bennu ar ôl priodi, a bod y gŵr yn dechrau magu bol a rhechain heb barch ati ddi pan oedd y fodrwy ar y bys. Fe elai hi mlan wedyn i weid bod ‘na ddim caru yn y gwely i gael rhynton nhw ‘tasa hi’n llanw ei gwallt hi a’r hen ‘lacer’ ‘na - ond fe alla i ddeall wncwl Samuel a’i farn e byti’r hen ‘lacer’ ‘na a gwed y gwir.
Siarad dwli oedd hi wrth gwrs – mae gen i un ar ddeg o gefndyr o’u herwydd nhw, felly dim ond jocan oedd Eileen. Ac a bod yn onest, ar y pryd down i ddim yn deall pam oedd hi’n siarad a chrwtyn ifanc fel na, er taw ei nai hi own i - fe fysa hwnna’n cael ei hystyried yn abiws siecolegol erbyn hyn.
Ond nid siarad dwlu oedd hi fel rwy’n ei gweld hi fel dyn erbyn hyn. Roedd hi ond yn gwed wthdo i yn ei ffordd arbennig hi ei hunan bod angen gwitho ar berthynas ac i beido â slipo a chymeryd petha yn ganiatäol - bod angen gweitho ar y perthynas, a gwaith o’r ddwy law yw hi.
Fe fyswn i’n ei gweid hi’n fwy bachog nag Eileen a gwed y gwir - rhywbeth tebyg i ‘unwaith mae’r fodrwy ar y llaw, ychydig o sielffo a ddaw’ – trafodwch'.
Fe allwn i ofyn i un o’r beirdd ‘na am rywpeth sy’n bert ac yn cynganeddu ond bysa neb yn ei deall hi wedyn, felly gwell aros gyda fy math i o driban sâl. Yr ystyr y tu ôl i’r meddwl sy’n bwysig, ots fel mae hi yn cael ei weid.
No hay comentarios:
Publicar un comentario