Rown i’n mynd i wneud blog byti gwleidyddiaeth a’r sefylla fel rwy’n ei gweld hi yng Nghymru, ond does gen i mo’r amser. Mae fi a Xosé yn mynd i lan i’r ‘Two Brewers’ yn Clapham. Sdim want yfed ar yr un ohonon ni, ond mae shwt yffach o ‘cob on’ ar Pablo fel nad oes posibl aros yn y fflat.
Ers y bore bach, mae fe wrthi yn clau a chymoni’r ty a ‘sdim stop i weld. Mae fe hyd yn oed yn ein hwpo ni mas o’r ffordd ac yn clau o dan y soffa a simo hwnna’n iawn odi fe.
Dyw e ddim wedi wedi gweid dim byd eto, ond ryn ni’n ddou yn gwpod be sy’n digwydd – mae ei fam e ‘Cruella de Santiago’ yn mynd i lando ar ein stepyn drws ni unryhw ddiwrnod. Mae hi wedi bod ‘ma o’r blaen a menyw digon neis yw hi heblaw am y cyrn ‘na sy’n stico mas o’i phen hi.
Ond y gwahaniaeth yn Pablo pan mae hi yma – chredi di fyth, ‘sa ti ddim yn meddwl y galle menyn doddi yn ei geg e. Neis, neis, neis yw e ond fel arfer rhyw ddiawl surbwch yw e. Mae fe yn yr ystafell ‘molchi yn clau popeth ar hyn o bryd ac yn y ‘fanna y bydd e am ryw awr a hanner arall– lle bach y diawl yw’r ystafell ‘molchi ac ifi’n ffilu deall be’ mae fe’n ei wneud yno.
Fe aeth Xosé i gael pisho ryw bum munud yn ôl, a’r gweiddu ddath o’r lle ‘na wedyn! Wi’n gwed wrthot ti, mae Xosé o’r un pentref a fe a fel rydw inna, ryn ni’n derbyn lot gin ffrindiau ond wedyn mae rhywun yn mynd yn rhy bell. Dyna le buws y ddou ohonyn nhw yn gweiddu ar ei gilydd fel wn i’m beth, felly dyma fi mor stiwpid ag yr ydw i yn fy rhoi fy hunan yn y canol, ond be’ geso i gin Pablo ond hwnnw’n gweid wrtho fi ‘callate sheepshagger’ – ifi wir yn dyfaru gweid wrtho fe taw dyna beth oedd y Saeson yn ein galw ni’r Cymry- ifi’n gweiddu petha tebyg nôl arno fe wedyn, ond nid dyna’r pwynt – fe ddechreuws e!
Mas am beint tawel mae fi a Xose yn mynd i’w wneud nawr gan obeitho y bydd y diafol wedi gadael corff Pablo erbyn inni gyrraedd nôl
No hay comentarios:
Publicar un comentario