viernes, 27 de julio de 2007

Pwysigrwydd llenni


Maen nhw wrthi’n peintio y tu fas i’r fflat ar hyn o bryd. Fflat cyngor yw hi ac mae’n un mewn bloc o fflatiau. Rwyf inna’n byw ar y chweched llawr ac mae ‘na ddeg o loriau i gyd, felly rwy’n byw reit uchel lan yn y nefoedd. Mae chwe ffenestr fawr yn wynebu allan ac mae’r peintwyr yn pasio heibio yn un o’r crudau ‘ma trwy’r dydd. Mae’r crud yn eitha hir ac i weld yn simsan iawn gen i. Mae’r gwynt yn ei wthio fe’n reit siarp ond maen nhw’n cerdded nôl ac ymlaen ar ei hyd–ddo heb boeni dim am yr uchder na’r gwynt. Mae tri ohonyn nhw wrthi ac mae un ohonyn nhw mor dew fel bo’r ddou arall yn gorffod gwasgu heibio iddo fe. Fe fyswn i wedi gwrthod gweithio gydag e, dyw’r rhaffau sy’n dala’r crud ddim i weld mor gryf a hynny a beth petasen nhw’n torri – byddai’r un tew yn iawn, fe wnaiff e fownsio nôl i lan ond bydd hi’n amen ar y ddou arall.

Bydd rhaid inni brynu llenni - sdim preifatrwydd i gael nawr ac wi’n credu y byddan nhw wrthi am sbelen. Mae llenni yn bwysig. Wi’n cofio pan own i biti pymtheg oed – rown i’n cael wanc yn fy ystafell wely ac wedyn yn sydyn reit dyma’r glanhäwr ffenestri yn ymddangos yn ddisymwth. Fel ‘na mae pethau yn y cymoedd ti’n gwpod - mae’r glanhawyr ffenestri ‘ma jwst yn pwyso’r ysgol yn erbyn y tŷ ac yn dechrau glanhau heb ofyn i neb. Mae rhaid eu talu nhw wedyn wrth gwrs. Digwydd bod taw tad i un o’m ffrindiau yn yr ysgol oedd y boi ‘ma ac felly fe ymledodd yr hanes ‘na fel tân gwyllt trwy’r pentref a’r ysgol. Roedd pobl yn fy mhasio yn yr ysgol wedyn ac yn esgus glanhau ffenestri wrth fy ngweld. Fe geso i’r glasenw Ceri Wanker am fis ar ôl hynny hefyd. Diolch i Dduw nad oedd yr enw ‘na wedi aros. Mae rhaid bod yn ofalus a glasenwau yn y cymoedd – os wyt ti’n cael un gwael, fe all e fod gyda thi hyd at y bedd. Roedd fy mam hyd yn oed wedi dechrau arno i. Fe wedodd hi wrtho i o flaen y cymdogion i gyd ei bod hi’n gobeithio nag ôn i’n dod dros y cynfasau pob nos oherwydd bod digon o waith glanhau gyda hi fel ag yr oedd hi a doedd hi ddim yn mynd i olchi’r cynfasau pob dydd. Mae’n gas gen i pan fo mam yn siarad â fi am bethau fel ‘na.

Wi’n byw yn y fflat ‘ma ers biti pum mlynedd nawr. Mae bron yn amhosib cael gafael ar fflat cyngor. Fe fuws rhaid imi weid ‘bo fi’n ‘suicidal’ a llefain y glaw pan etho i i weld y meddyg ond roedd e’n werth y drafferth yn y diwedd. Wi wedi gweld adroddiad y meddyg hefyd ac fe wedodd e wrth y cyngor bod ‘suicidal tendencies’ gyda fi – does ‘na ddim, actio oeddwn i ac a gwed y gwir bachan digon hapus ydw i. Wn i’m pam chwaith, does byth arian gyda fi a wna i fyth dod ymlaen yn y byd fel mae fy mam yn f’atgoffa i feunydd ond byw pob dydd ar y tro ydw i ac mae cymaint i joio mewn bywyd ond oes e.

Mae’r fflat yn wynebu bloc o fflatiau i bobl gyfoethog. Roedd Branwen yn gweid wrtho i fod yr aelod seneddol dros Arfon yn byw yno pan bo fe yn Llundain ond sai erioed wedi ei weld e. Ifi wedi gweld y boi Bob Geldoff ‘na obiti’r lle – ond yw e’n rêl hen sgryff a’r holl arian ‘na sy gynto fe hefyd.

Mae ‘na fenyw yn un o’r fflatiau gwaelod yn y bloc ‘na ac rŷn ni’n ei galw hi’n Montserrat Caballé am fod ei bronnau hi mor fawr. Rŷn ni’n gallu ei gweld hi bob bore yn ei hystafell ymolchi os gwnawn ni iwso’r sbienddrych ac mae ei bronnau hi i’w rhyfeddu – tebyg i rai’r fenyw Jordan ‘na. Efallai bod ei rhai hi yn silicon hefyd – fe alswn i ofyn iddi taswn i’n ei gweld hi ar y stryd er mae’n siwr gen i na fyswn i’n ei nabod hi – dwi erioed wedi ei gweld hi â’i dillad amdani. Un arall yw hi a ddylai brynu llenni

No hay comentarios: