Fe etho i i’r ysbyty yn Earls Court gyda’r boi ‘ma o’r enw Jorge ddoe. Dôn i ddim yn ei napod e o gwbl. Fe ffonodd e Xosé ddydd Llun yn gofyn a fyddai fe’n fodlon mynd ag ef i’r clinig am nad oedd e’n deall fawr dim Saesneg. Fe fysat ti’n gallu ysgrifennu ar gefn cerdyn be’ mae Xosé yn deall o’r Saesneg, felly fe geso i fy landio a’r jobyn bach ‘na. Y peth rhyfedd yw nad oedd Xosé yn ei napod e chwaith. Napod ffrind i ffrind i Xosé oedd e, a chael ei rif ffôn gan ffrind arall i’r ffrind arall ‘ma oedd yn napod mam Xosé. Fel ‘na mae’r Galisiaid wyddost ti – unrhyw gysylltiad ots pwy mor denau yw e yn ddigon iddyn nhw lanio ar dy stepyn drws di.
Mae Jorge i lawr ‘ma yn Llundain gyda ei waith e ers mis ac i fod i fynd nôl ddydd Sadwrn ond roedd e’n meddwl ei fod e wedi dala rhywbeth yn ei bidyn – ddylswn i ddim gweid hyn ond fydd e fawr callach, mae fe wedi dala gonorrhoea.
Fe fuon ni yn y clinig am biti tair awr ond profiad digon difyr oedd hi – rown i’n eitha mwynhau fy hun er bod Jorge yn teimlo’n reit lletwith, ond ei fai e yw hwnna am fod shwt slwtyn.
Ar ôl aros am eitha sbelen fe aethon ni i mewn i weld y nyrs. Chredi di fyth mo’r cwestiynau roedd hi’n gofyn – roedd hi isha gwpod pob un dim am ei fywyd rhywiol yn y tri mis diwetha. Mae’n anodd siarad am bethau fel ‘na â dieithriaid ond yw e – a newydd gwrdd â fi oedd e hefyd. Roedd y nyrs hon yn siarad am ryw mewn ffordd reit gomon hefyd ac yn defnyddio iaith y stryd. Efallai bod hi’n meddwl y byswn i’n deall yn well, ond yn wir iti fe fyswn i’n deall geiriau fel ‘cunnilingus’ a ‘fellatio’ a doedd dim rhaid iddi hi ei gweid hi yn y ffordd wnath hi. Fe wnath hi IMI gochi hyd yn oed.
Fe fuon ni biti chwarter awr â’r holl gwestiynau ‘na ac wedyn fe gafodd hi bip reit fanwl ar ei bidyn a swmpo ei geilliau a bu rhaid iddo fe fynd i bisho mewn potel ac aros rhyw awr i weld nyrs arall. Roedd y nyrs arall wedyn yn cymryd bach o’i waed e ac yn waeth fyth yn hwpo’r peth ‘ma lawr twll ei bidyn e. Bu raid ifi edrych bant pan wnaeth hi hwnna ond wedodd Jorge nad oedd e’n brifo o gwbl ond meddwl am y peth yw e ontefe.
Bu raid inni aros eto byth wedyn gyda’r holl bobl eraill oedd yno. Pobl o bob lliw a llun oedden nhw hefyd a rhai ohonyn nhw mor salw fel na fysech chi’n meddwl y celen nhw gyfle i ddala unrhywbeth ond dyna ni, fel mae’r ddihareb Gymraeg yn ei weid - mae brân i frân.
Lle digon cyfeillgar yw e - fe ddechreuais i siarad â rhyw ddyn wrth fy ochr ac roedd e wedi dala chlamydia a’r boi arall ‘ma wedyn oedd wedi dala’r clefyd crafu ond fe gedwais i fy mhellter oddi wrtho fe a dim ond siarad â’r boi chlamydia. Dyma iti’r nyrs ffroenuchel ‘ma wrth y desg yn gweid wrtho fi wedyn pe taswn i’n gofyn i rywun arall beth oedd yn bod arnyn nhw, byddai raid iddi ofyn ifi adael. Wn i’m be’ oedd ei phroblem hi – ‘shit happens’ a dyw e ddim byd i fod â chywilydd ohono fe a nhw wedodd wrtho i ta p’un i.
Diwedd yr hanes fu i’r nyrs ‘ma roi pilsen i Jorge a gweid y dylai popeth bod yn iawn, ond iddo fe ffono mewn wthnos i weld os oedd yr haint wedi clirio ac os oedd e wedi dala unrhyw beth arall ar ôl i’r profion gwaed ddod nôl. Fe wnaeth hi roi llwyth o gondoms iddo fe am ddim wedyn. Rown i’n eitha crac ‘bo fi wedi prynu bocs o condoms pwy ddiwrnod – bydda i yn mynd i’r lle ‘na am ‘check up’ o hyn ymlaen er mwyn cael y condoms rhad ‘na.
Dyw Jorge ddim i fod i gael rhyw am ddeng niwrnod nawr ac roedd e’n poeni y byddai ei wejen e’n ffindo mas pan elai fe nôl i Galisia ddydd Sadwrn, felly wi wedi gweid y galliff e aros gyda ni am wythnos ‘sbo fe’n holliach – mae i weld yn foi digon ffein - uffach o slwtyn ond dyna ni pwy ydw i i farnu, ac mae fe wedi gweid yr aiff e â fi mas am gwpwl o beints ac mae want sesiwn arno i.
No hay comentarios:
Publicar un comentario