viernes, 27 de julio de 2007

Dyfal donc


Newydd edrych ar fy ystadegau ar y peth 'site meter' 'na a meddwl am y peth ‘ma wedodd y boi ‘na Glyn Davies pwy nosweth ar y rhaglen 'Wedi Saith'. Siarad am ei flog e oedd e ac fel ei fod e’n treial blogio pob dydd. Fe wedodd e nad oedd e’n cael lot o bobl ar y dechrau ond erbyn hyn mae’n cael biti mil o bobl – MIL o bobl cofia. Ifi ond yn cael biti naw o bobl ac mae saith o’nhw yn dod o naill ai Ffinland, Kuala Lumpur neu Rwsia. Roedd un wedi dod ato fi ar ol rhoi ‘ porno Blanca nieves y los 7 enanos’ i mewn ar y 'google' 'na. Dyna’r tro diwetha wi’n mynd i son am 'Snow White' ar fy mlog. Ond dyna ni, eitha joio’r blogio ‘ma ydw i ac mae malu awyr erioed wedi bod yn rhywbeth y gallwn i ei wneud heb feddwl ddwywaith, felly fe wna i rygnu mlaen a gweld os bydda i’n cael denu naw o bobl o Gymru rywddydd.

No hay comentarios: