lunes, 9 de julio de 2007

Teyrnged i Gwenno Teifi


Mae hwn yn flog teyrnged i Gwenno Teifi, sydd fel yr wyf yn ysgrifennu yn un o westeion ei Mawrhydi yng Ngharchar Eastwood Park, swydd Caerloyw. Di-bwynt a di-angen bydd lot o bobl yn ei ddweud neu chwarae myfyrwyr yw e, ond meddylia faint ohonon ni sydd ddim yn codi llais dros y Gymraeg am ei bod hi’n haws cau ceg a byw bywyd braf – ‘sna ddim byd ‘hawdd’ biti mynd i’r carchar a does ‘na ddim byd hawdd ‘biti sefyll lan dros y Gymraeg yng nghwmni ei gelynion. Ein hatgoffa ni o’r ‘frwydr barhaol’ honno mae ‘carchar dros yr iaith’ yn ei wneud. Cefnoga’r grotes ‘da ti! Mae’r frwydr YN parhau!

Merch i Ffrederic a Meinir Sefffffffton Ffransis yw Gwenno ond yn fwy adnabyddus yn y Rhithfro fel hanner chwaer hoffus a chariadus i Hedd Hambôn, un o wefeistri’r flwyddyn ddwy fil - un a fabwysiadwyd ac a fagwyd ganddynt yn Nolwerdd ddechrau’r ganrif ddiwethaf.

Deallwn i Gwenno brotestio a gadael ei marc ar un o siopau esgidau Aberystwyth oherwydd eu diffyg parch at y Gymraeg a phocedi prynwyr esgidiau ‘posh’ Aberystwyth. Gyfeillion, oni sefwn yn y bwlch, bydd pawb yn droednoeth yng nghyffiniau’r hen dre a phob hambôn ohonom o Drefach Felindre i waelodion Plwmp yn gorffod pyrnu ein hesgidiau a derbyn ein gwasanaeth Cymraeg yn siop Mrs Tin Tyn yn Llanfihangell-y-Creuddyn: - a simo hi’n tshep o bell ffordd.

Bues i yn y carchar unwaith flynydda maith yn ôl erbyn hyn ond dal mae’r creithiau o hyd. Nid aberth fach mohoni. Anhegwch fu fy ngharchariad inna fel yn achos Gwenno. Rhyw noson heulog braf ym mis Gorffennaf yn y dyddiau heulog hynny a fu, dyna le bues i’n pisho’n hapus braf yn erbyn wal Mrs Jenkins siop losin a chachu rwtsh, pan wnath y blismones ‘ma fy nharo i ar fy ysgwydd a gofyn be’ own i’n ei wneud. Troi rownd gnetho i ond yn anffodus, bu imi bennu’r pisho ar ei shws Manolo Blahnik - tri mis yng Ngharchar Abertawe am ‘assault with a dangerous weapon’. Felly wi’n deall be’ yw ‘aberth’ am rywbeth a ddylai fod yn hawl i bawb yn ddi-arwahan – yr hawl i ddefnyddio eich iaith yn eich gwlad eich hun a phiso heb ymyrraeth neb. Mewn undeb mae nerth!!

No hay comentarios: