Bues i’n gwylio pennod o ‘Nip and Tuck’ y bore ‘ma. Fe welais i fe oddi ar y wefan Sbaeneg SinLaMula.com Mae’r ffilmiau a’r cyfresi i gyd yn y Sbaeneg ond am ryw reswm roedd y gyfres hon i gyd yn y Gatalaneg. Roedd hyn wedi gwneud imi feddwl am debygrwydd y Sbaeneg i’r Gatalaneg a’r Alisieg.
Dw i erioed wedi astudio’r Gatalaneg na’i chlywed hi ryw lawer ond rown i’n gallu deall o leiaf 50 y cant ohoni, ac ychydig yn fwy fel own i’n ymgyfarwyddo â’i sŵn hi. Mae Enrique a Jesús, dau ffrind imi yn siarad ‘Valenciano’ â’i gilydd ac mae dadlau ffyrnig os taw iaith annibynnol yw hi neu dafodiaith o’r Gatalaneg, ond ychydig o wahaniaeth sydd rhyngddynt yn ôl pob sôn. Wi wedi dysgu gweid ‘vols foc’ sy’n golygu ‘wyt ti ishe tân? ond mae’n amlwg pam y bysa’r ymadrodd honno wedi codi fy nghlustiau.
Wi’n deall yr Alisieg yn reit dda ac yn rhoi cynnig ar ei siarad hi er mae’n siwr ‘bo fi’n siarad cymysgedd o Sbaeneg a Galisieg heb sylweddoli p’un yw p’un hanner yr amser. Mae fy ffrind Xosé yn siarad Galisieg â Pablo trwy’r amser ond mae hwnnw’n ei ateb e nôl yn Sbaeneg yn ddi-ffael. Rhywbeth ‘biti bod yn ‘cool’ yw hwnna, wi’n credu – dyna pam ifi’n siarad Galisieg ag e’n reit aml er mwyn ei gywilyddio a’i ddigio ond erbyn hyn mae fe ond yn meddwl ‘bo fi yr un mor ‘uncool’ a Xosé. Bach o idiot yw e a gwed y gwir.
Er bod yr Alisieg yn chwaer iaith i’r Bortiwgaleg, mae ei seineg yn reit debyg i’r Gastilaneg ac mae’n siwr gen i bod bron mwy o wahaniaeth rhwng rhai o dafodieithoedd y Gymraeg. Y Peth sy’n rhyfedd yw bod Sbaenwyr eraill yn gweid na allen nhw ddeall dim byd. Os wyt ti’n Gymro sy’n deall Sbaeneg ac yn gyfarwydd â chlywed a deall tafodieithodd y Gymraeg, fyddi di fawr o dro yn ymdopi â’r Alisieg. Efallai dyna un o gryfderau’r Gymraeg wrth eich helpu i ddysgu ieithoedd eraill. Rydym yn derbyn gwahaniaethau o fewn yr iaith a dyn ni ddim yn gweld problemau efo gwahaniaethau mewn ieithoedd eraill. Os wyt ti’n deall bod rhai yn gweid ‘trad’ yn lle ‘traed’ yn y Gymraeg, buan y deui di i ddeall ‘bod nhw’n gweid ‘porta’ am ddrws yn yr Alisieg a ‘puerta’ yn y Gastilaneg. Mae’r newidiadau ‘ma i gyd yn dilyn rhyw fath o drefn.
Mae hyn yn reit ddifyr ‘bthdi’r ieithoedd Romawns yn Sbaen. Fyswn i’m yn meddwl ei bod hi mor anodd â hynny i gymhathu mewnfudwyr Sbaeneg eu hiaith yng Ngalisia neu yng Nghatalonia. Mae’r sefyllfa yng Nghymru yn hollol wahanol.
1 comentario:
Pam ydych chi'n dweud "Valenciano" yn hytrach na "Falensianeg", "Valencianeg", neu "Gatalaneg València/Falensia"? O leiaf byddai'n dangos dipyn bach mwy o barch i'r iaith druan (sydd mewn digon o drwbl o hyn o bryd!!)petai chi'n defnyddio'r geir brodorol "Valencià" yn lle gair yr iaith "ysglyfaethwr".
Beth fyddai'n well gyda chi?:
A) "Hay más hablantes de Welsh en las regiones industriales del sud que en las zonas rurales occidentales"
neu
B)"Hay más hablantes de Galés en las regiones industriales del sud que en las zonas rurales occidentales".
Byddai hyd yn oed C) yn dangos mwy o barch at y Gymraeg nag A):
C)"Hay más hablantes de Cymraeg en las regiones industriales del sud que en las zonas rurales occidentales".
Mae A) yn dangos nad yw'r Gymraeg yn deilwng o ddelio'n(neu gael ryngwyneb)uniongyrchol ag iaith arall heb basio trwy'r Saesneg fel cyfryngwr.
Felly mae dweud "Valenciano" fel dweud bod pob cyfeiriad at yr iaith honno yn gorfod pasio trwy'r Sbaeneg a nad yw hi ddim yn ddigon parchus i ryngwynebu'n
uniongyrchol gyda ieithoedd eraill.
Rwy'n sicr bod chi ddim wedi bwriadu creu'r argraff 'ma ac fel arall rwy'n hoffi'r dudalen neu ddwy mod y wedi darllen ar eich safle Gwe.
Ydych chi'n byw yng Ngalisia? Rwy'n byw ger Falencia/València (ac yn gweithio ym Mhrifysgol Bolitechnegol Falensia) ers 1991 ac yn Sbaen ers 1986.
Cofion gorau,
Michael Prosser
mprosser@idm.upv.es
Publicar un comentario