sábado, 28 de julio de 2007

Cystadleuthau


Fe fues i’n darllen menaiblog ddoe ac mae fe’n conan biti’r ffaith na chas e mo’i enwebu ar gyfer y gwobrau blogio ‘ma. Mae fe’n dechrau arni wedyn ac yn lladd ar y blogs eraill a gas eu henwebu. Sai’n gwpod os yw’r boi o ddifrif neu beidio ond fe wnaeth e imi werthin. Wi wedi ei ddarllen sawl gwaith ar ol hynny ac mae dal yn codi gwên ar fy wyneb. Fe ddylsat ti fynd draw i’w ddarllen e.

Dwi ddim yn un am y teip ‘na o gystadleuaeth chwaith. Wi’n cofio unwaith, mewn rhyw eisteddfod yn yr ysgol, imi gymryd rhan mewn cystadleuaeth canu crib. Bu raid inni roi bach o ‘tracing papur’ dros y crib ‘ma a chanu ‘When The Saints Come Marching Home’ arno fe. Fi ddath yn bumed mas o’r chwech oedd yn cystadlu. Fe wnetho i fy ngorau glas hefyd ac own i a’m calon yn fy esgidiau pan ddetho i’n bumed. Roeddwn i ond wedi ennill dros y boi arall am iddo fe ddriblan dros y crib i gyd. Bu raid imi feddwl wedyn am yr holl ffilmiau gwych wnaeth erioed ennill yr Oscar i’m cysuro i. Yr unig beth a enillais i erioed oedd £10 ar y loteri ond mae hwnna flynyddau nol erbyn hyn.

Fe fues i mewn lot o gystadleuthau yn yr ysgol ond mae’r athrawon yn dy orfodi di i gystadlu ond dŷn nhw. Rhwng ffrindiau roedden ni’n cynnal cystadleuthau i weld pwy oedd â’r pidyn mwya – roedd Dafydd ‘coc braich babi’ wastod yn ennill honno am resymau amlwg. Un arall oedd i weld pwy fasa’n gallu dod gyntaf – ‘shit’ o gystadleuaeth i ennill yw honno ontefe. Fysat ti byth yn cael yr un shelffad gan yr un ferch petasai hi’n gwpod dy fod di’n dod yn gynt na neb arall. Odi cryts ifainc ymhobman yn cael cystadleuthau fel ‘na neu ife rhywbeth sy’n digwydd yn y cymoedd yw e – wi erioed wedi clywed pobl eraill yn sôn amdanyn nhw.

Sdim ots da fi’r teip o gystadleuthau rwyt ti’n ei gael yn y papurau newydd neu ar gefn paced o Kellogs Cornflakes – o leiaf rwyt ti’n cael rhywpeth sy’n werth ei ennill gyda’r rheini. Mae ‘na un dda yn y Tivy-side Advertiser. ‘Spot The Sheepdog ‘yw enw’r gystadleuath ac mae gen ti lun o ddiadell o ddefaid ond simo’r ci defaid i weld yn unman. Mae rhaid iti wedyn roi croes yng nghanol lle’r wyt ti’n meddwl y dylai’r ci defaid fod. Dyw hi ddim mor hawdd ag mae’n swnio ac mae’n siwr gen i fod y papur yn gwneud ffortiwn mas o’r hambôns yn Nyffryn Teifi - wi’n gwpod bod Hedd yn un selog am ei gwneud hi, ond smo fe erioed wedi ennill.