viernes, 6 de julio de 2007

Der Exorzist


Fe geso i eitha tipyn o ymwelwyr o’r Almaen ddoe. Fy mlog diwetha sy’n gyfrifol am hwnna. Fe wnaeth rhai ohonyn nhw ddod i mewn o ryw flog cymunedol yn Augsburg, Bavaria a rhai eraill ar ôl chwilio am y teulu Von Pratt. Rhyfedd o fyd yw’r rhyngrwyd ‘ma ontefe. Wn i’m be’ ôn nhw’n ei feddwl o’r Muppets yn canu Mahna Mahna – wnaethon nhw ddim gadael sylwad. Fyswn i’m yn deall dim byd ‘tasan nhw wedi gadael sylwad ta p'un i. Wi’n gallu gweid ‘tshus’ a ‘wie giets’ ond dim byd arall.

Mae gen i gopi o’r Exorcist wedi ei ddybio i’r Almaeneg fel mae’n digwydd. Wi’n cael ofn trwy fy nhin yn ei chlywed hi yn yr Almaeneg. Mae rhywbeth ‘bthdi sŵn yr iaith – mae’n siwr gen i taw dyna’r iaith fydd y Diafol yn ei siarad pan ddaw fy amser i gwrdd ag e. Mae gen i gopi yn y Gastilaneg hefyd ond mae hwnna ond yn gwneud imi chwerthin. Dyw ‘hijo de puta’ ddim cweit yr un peth â chlywed Regan yn gweid ‘stick your cock up his arse’.

Syndod imi oedd sylweddoli bod Von Pratt yn enw go iawn, ond wedi gweid ‘na, roedd ‘na Herr Fucher ar gwrs Ffrangeg rown i’n ei ddilyn ym Mharis flynyddau yn ôl. Mae ‘na feddyg fan hyn yn Llundain hefyd a’i enw e yw Dr Smellie a dyna galon y gwir - cris croes tân poeth!

Rhyfedd fel mae geiriau neu enwau mewn ieithoedd gwahanol yn gwneud i bobl chwerthin ontefe. Bydda i wastod yn rhoi C W Jones ar unryw ffurflen yn Sbaen - os bydda i’n rhoi C Jones maen nhw’n dueddol o’i weid e fel ‘cojones’ sy’n golygu ceilliau yn y Gastilaneg a chwerthin am fy mhen.

Mae’r gair ‘corner’ yn y Saesneg yn gwneud i Xosé biso chwerthin. Mae’n swnio’n union fel y gair ‘cona’ yn yr Alisieg sy’n golygu cont. Mae’r Saeson wastod yn gofyn iddo o ba le mae fe’n dod ac mae fe wastod yn gweid ‘from the corner’. Wrth gwrs mae’r Saeson wedyn yn gofyn iddo fe ‘which corner’ ac mae fe’n ateb nôl ‘my mother’s cona’ a chwerthin hyd at ddagrau. Dyna bron â bod yr unig sgwrs yn Saesneg mae’n gallu ymdopi ag e ac mae wastod yn mynd yn y drefn ‘na. Mae’r Saeson yn edrych arno fe fel tasa fe’n dod o blaned arall. Wi’n gweld y peth bach yn blentynaidd fy hun ond dyna ni, pawb at y peth y bo.

No hay comentarios: