jueves, 5 de julio de 2007

Mahna Mahna!

Dyma un o’m hoff ganeuon. Fe‘i clywais gyntaf yn y ‘Royal Albert Hall’ yn Llundain ym 1926 yn cael ei chanu gan y ‘Von Pratt Singing Sisters’ o Augsburg, Bavaria a chyda chefnogaeth arbennig gan Heinrich Luitpold Himmler.

Os ewch i un o’r tafarndai Gwyddelig sydd yn frith ym Mhrydain erbyn hyn fe welwch yr enwau ‘mná’ a ‘fir’ ar ddrysau’r tai bach. Mae ‘mná’ yn golygu menywod a ‘fir’ yn golygu dynion. Felly os cofiwch y gân hon a’r ddwy fuwch sydd yn ei chanu, ni ddylech fyned i mewn i’r toiled anghywir.

No hay comentarios: