sábado, 28 de julio de 2007

Edith Piaf - L'Accordeoniste - 1954

Mae Jorge wedi dod i aros aton ni heddi ‘sbo ei gonorrhea fe yn clirio lan – fydd e ddim yma mwy nag wythnos os yw’r taflenni o’r clinig yn gweid y gwir. Rŷn ni’n mynd i fynd mas fel rhyw barti croeso iddo fe heno pan fydd Pablo yn barod. Mae Pablo yn un o’i hwyliau drwg eto byth – conan mae fe nawr ‘bo fi’n siafo pan ifi’n cael bath a bod y blewiach yn stico wrth yr ochr. Wn i’m be sy’n bod arno fe – mae pobl yn starfo yn Affrica ac mae fe’n poeni am ambell i flewyn yn y bath.

Fideo fel ymateb i Pablo oedd hon i fod - Edith Piaf yn canu ‘Je ne regrette rien’ neu fel y byswn i’n ei gweid hi ‘Sna’m ffyc all o ots gen i’. Ond erbyn hyn mae’r ‘sbid’ wedi dechrau cicio i mewn a meddwl yr oeddwn i y baswn i’n dewis un o’i chaneuon mwy ‘up beat’ a chredi di fi, mae’n anodd ffindo un o’r rhain ‘ta Edith.

Wi wedi dewis ‘L’Accordeoniste’. Canu am butain digon anhapus ei bywyd yw hi sydd yn digwydd clywed miwsig y canwr acordion ‘ma sy’n codi ei chalon hi dipyn bach.

Fe gafodd Ēdith Giovanna Gassion ei geni ar y 19fed o Ragfyr 1915 (yr un diwrnod â fi gyda llaw – y diwrnod nid y flwyddyn). Glasenw yw 'Piaf' neu 'La Môme Piaf' sydd yn golygu ‘dryw’ yn iaith lafar Paris. Bywyd digon trist yw ei hanes hi a bu hi farw yn 47 mlwydd oed o ganser yr afu. Un o’r cantorion gorau a fu erioed yw hi a nid oes angen deall Ffrangeg i glywed yr angst a’r prydferthwch sydd yn ei llais. Lwcus iawn byddwn ni os gwelwn ni ei thebyg eto.