miércoles, 27 de junio de 2007

Penblwydd fy mlog


Penblwydd fy mlog fydd hi ‘fory. Wrthi ers pythefnos ydw i ac i lan at heddi mae 153 o bobl wedi ymweld â fi. Ychydig iawn o’r rheini sy’n dod o Gymru fel mae’n digwydd. O Loegr a’r Unol daleithiau mae’r mwyafrif yn dod. Siarad â’r Cymry ar wasgar ydw i neu falle bod nhw wedi galw i mewn ar gam. Mae un person wedi galw i mewn yr holl ffordd o Puerto Rico, ac felly os wyt ti’n stryffaglu gyda hwn gyfaill – Hola tio, que tal? Soy Ceri un idiota guapo e este es mi blog.

Mae’r rhan fwya o’nhw yn dod ato i trwy flog Dogfael. Mae’n siwr bod fy mlog i yn eitha siomedigaeth iddyn nhw wedyn – os ôn nhw’n disgwyl rhywbeth diwylliedig a synhwyrus maen nhw wedi dod i’r lle anghywir. Efalle na pam mae uffach lot o’nhw ond yn aros am 0.00 eiliad. Mae na’n rhyfedd ond yw e ond wi wedi sylwi fod e’n digwydd i bobl eraill hefyd. O bryd i’w gilydd, wi’n popo i mewn i gael pip ar ‘site meters’ pobl eraill. Mae’n teimlo bach fel bo ti’n mynd i mewn i dŷ rhywun arall pan fo nhw mas ond nhw sydd wedi gadael y drws ar agor felly eu bai nhw yw e am roi temtasiwn yn fy ffordd.

Wi’n cael pobl eraill wedyn sy’n aros eitha sbel - wi’n tueddu meddwl ‘bod nhw'n ‘dyslexsic’ a bod angen tipyn o amser arnyn nhw druain, neu falle bod nhw wedi mynd i lawr y siop a gadael fy mlog ar agor. Wi’n ddiolchgar iddyn nhw ta p’un i.

Mae ambell i berson arall wedi fy nabod i oddi wrth y blog ‘ma sydd bach o ‘shit’; bydd rhaid ifi watsio mas be ifi’n ei weid o hyn ymlaen. Wedi gweid ‘na, mae’n braf cael clywed gan bobl wi’n napod. Fe geso i alwad ffôn gin Huw ar ôl iddo ddarllen y blog ‘ma. Roedd hwnna’n eitha syrpreis – roedd e’n yffach o syrpreis a gwed y gwir, own i’n meddwl bo fe wedi marw biti pum mlynedd yn ôl. Pan glywais i ei lais e own i’m meddwl bod y ‘night nurse’ wedi dechrau cico mewn. Mae’n siwr gen i y bydd rhagor o bobl yn cael gwpod ‘bo fi’n gwneud hyn nawr. Os wyt ti’n rhechain yng Ngwaun–Cae-Gurwen ben bore bydd pawb yn cael gwpod amdano yn nhre Caernarfon erbyn diwedd prynhawn. Lle fel ‘na yw Cymru ontefe, sdim angen e-mails neu ddim byd felly arnon ni, jwst cario’r neges ar bar o ddrymiau a chael mwg y tân yn mynd yn yr iard gefn – ‘sda’r indians cochion ddim byd arnon ni.

Wi wedi sylwi yn y blogs wi wedi cyhoeddi mor belled fy mod i’n rhegi eitha tipyn - wn i’m pam wi’n gwneud hwnna, dwi ddim yn rhegu yn y byd go iawn?! Y peth yw wi jwst yn ista lawr ac mae’r blogs yn dod mas fel rhyw ddolur rhydd ac wi’n eu cyhoeddi nhw heb olygu dim byd ac alla i ddim bod yn ffycin arsed i newid dim byd wedyn. Dyliwn i gael rhywbeth ar y cyfrifiadur sy’n gwneud rhyw ‘bing’ pob tro wi’n rhoi rheg i lawr, ond byddai hynny yn ‘y slofi i lawr yn ddychrynllyd. Felly os ydw i wedi offendo rhai pobl, byddwn i’n lico gweid pwy mor flin ydw i - ond a gwed y gwir does ffyc all o ots gen i.

Dyma le mae rhai o’r bobl sy’n ymweld â fi’n byw. Diolch yn fawr iddyn nhw a bydded i gyfoeth a gras ddod i ran pob un ohonynt

Sofia, Grad Sofiya
Cempuis, Picardie
Wales, Rotherham
Rhondda, Rhondda Cynon Taff
Crowthorne, Wokingham
Villiers, Bourgogne
Portland, Oregon
Puerto Rico
Bangor, North Down
San Francisco, California
Fareham, Portsmouth
Ridingmill, Newcastle upon Tyne
Bryngwyn, Monmouthshire
Crowthorne, Wokingham
Phoenix, Arizona
Mountain View, California
Tamworth, Walsall
Houston, Texas

2 comentarios:

Dafydd Morgan Lewis dijo...

Llongyfarchiadau i'th flog ar dy benblwydd. Mae'r blog wedi achosi cryn gyffro yma yn Aberystwyth.
Dylwn dynnu dy sylw at y ffaith fod yna gystadleuaeth llunio blog yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd y flwyddyn nesa'. Dylet gystadlu. Lyn Lewis dafis ydy'r beirniad. Un sylw bach am stori Ewan McGregor. Yng Ngwyl y Gelli 'leni cefais fy hun yn piso wrth ochor David Milliband, sydd erbyn hyn yn Ysgrifennydd Tramor. Nid fod gan hynny ddim i'w wneud a'i ddyrchafiad, am wn i. DML

Cer i Grafu dijo...

Diolch iti Dafydd. Un i achosi cyffro yn Aberystwyth bues i erioed!! Beth yw'r wobr yn y gystadleuath 'na - ife arian yw e? Fyswn i ddim yn boddran weipo fy mhen ol am un o'r 'shit' gadeiriau fel cas Ceri Wyn y bardd enwog 'na. I'r diawl a'r anrhydedd, bach o arian mae pobl isha. Er wedi gweid na, bysa coron yn reit bert. O leiaf bysa modd gwerthu honna - sneb isha cadair, mae'r rhain yn ddigon tshep yn Aika.

Ceri

Amhosib fydda iro llaw Lyn hefyd. Sdim pwynt