viernes, 29 de junio de 2007

Dyddiau llwm



Daeth fy nghytundeb gwaith i ben bore ‘ma. Bues i’n gweithio’r sifft nos felly wnetho i ddim bennu tan 6.30am. Af i ddim i’r gwely ‘sbo hi’n hwyr heno neu fe fydda i’n cael trafferth dod ato fy hun ar gyfer ei chlybio hi nos Sadwrn. Efallai bydd y gwaith yn ail-ddechrau ym mis Medi ond mae hwnna sbel i ffwrdd. Bywyd dal llygoden a'i byta fydd hi arno i os na ddywa i o hyd i waith yn y cyfamser

Fe etho i i lawr i’r lle dôl biti deg o’r gloch. Prin yw’r arian maen nhw’n ei roi iti ond rwyt ti yn cael bach o help i dalu’r rhent ac mae hwnna'n helpu i gadw’r blaidd rhag y drws. Mae’n gas gen i fynd i’r lle 'na. Wn i’m be sy’n bod ar y bobl sy’n gweithio yno. Maen nhw i gyd wedi bod yn yfed mas o gwpan chwerwder bywyd - mae pob un o’ nhw mor sarrug a surbwch. Am ryw reswm maen nhw i gyd yn salw iawn hefyd. Fyswn i’m yn meddwl bod nhw’n cael sielffo ryw lawer ombai ‘bod nhw’n sielffo ei gilydd. Roedd y fenyw oedd yn delio â fi yn debycach i fwnci na’r neb a welet ti ym Mlaenau Ffestiniog. Roedd tipyn o fwstash ‘da hi ac roedd ei breichiau hi’n flew i gyd. Mae rhaid ifi fynd nôl am gyfweliad arall gyda hi ddydd Mercher. Efallai af i i mewn â banana i dreial ei phlesio hi.

Mae ‘na rai pethau yn Llundain ‘ma sy’n rhoi cymorth i bobl dlawd. Mae ‘na fan sy’n galw heibio i orsaf Kings Cross bob dydd am ddau o’r gloch ac maen nhw’n rhoi bwyd am ddim i’r di-gartref. Rhyw stwnsh lentils a reis a phethau felly yw e, ond wna i fyta rhywbeth os ifi’n cael rhoi bach o halen arno. Weithiau os bydd y di-gartre wedi bod yn clecian gormod o ‘Tennets Super’ a phallu codi am ddau o’r gloch, bydd ‘na lwyth o fwyd ar ôl a chei di fynd a dau neu dri ‘container’ adre gyda thi.

Y bobl pen moel ‘na sy’n gwisgo ffrogiau ac sy’n lico bango tambourines a rhyw glychau tra bo nhw wrthi’n canu Hari Krishna sy’n darparu’r bwyd. Wyt ti’n eu gweld nhw’n aml yn Soho mewn grwpiau o ryw ugain yn pranso i lawr yr hewl yn dala’r tambourines ‘na yn yr awyr ac yn gwenu ar bawb fel tasan nhw wedi bod yn smoco ‘rei’ am oriau bwygilydd. Maen nhw i weld yn ddigon hapus a bodlon eu byd er ‘bod nhw’n eitha poen yn tin ‘ta’r holl siantio ‘na – bysa meddwon yn cael eu harestio am gadw’r fath dwrw ond dyna ni pawb at y peth y bo ontefe.

Os bydda i’n brin iawn iawn o arian, fe af i mas i dynnu fy nillad. Mae wastod rhyw ‘amateur stripping contest’ yn y tafarndai ‘ffor hyn a dim ond un neu ddau sy’n fodlon ei wneud e fel arfer. Man a man iti iwso dy gorff cyn iddo fe bydru’n shwps ontefe. Mae’r un gorau yn cael ennill £50 a’r ail yn cael £25, ond ti’n cael £10 dim ond am gymryd rhan felly mae’n werth mentro. Enillais i £25 unwaith wrth ddawnsio a thynnu fy nillad i ‘Simply The Best’ gan Tina Turner. Dylswn i fod wedi ennill ond roedd y boi arall wedi clymu y peth ‘ma rownd ei bidyn oedd yn fflasho goleuadau coch a glas bob yn ail. Mae rhyw ‘gimmick’ wastod yn ennill y dydd. Wi’n meddwl oedd e wedi bod yn iwso un o’r ‘penis enlargment tubes’ ‘na hefyd – roedd ei bidyn yn edrych fel rhyw ‘chorizo’ oedd wedi bod ar y barbeciw am yn rhy hir. Wi’n gwpod ‘na am ifi iwso un o’r peiriannau hyn unwaith – wyt ti’n rhoi dy bidyn yn y tiwb gwydr ‘ma ac mae ’na declyn wrth y tiwb rwyt ti fod i wasgu er mwyn sugno’r aer mas ohono. Mae dy bidyn wedyn yn cael ei dynnu hyd at lenwi’r gofod lle’r oedd yr aer. Yn anffodus, wi’n credu ifi wasgu fe ormod ac aeth fy mhidyn yn sownd yndo. Methais i’n lân a’i gael e mas. Fe geso i uffach o fraw ac roedd e’n glwm yn y ffycin peth ‘ma am ryw awr a hanner. Coch a briwiedig y diawl oedd fy mhidyn inna pan slipodd e mas yn y diwedd.

No hay comentarios: