miércoles, 27 de junio de 2007

Lladron pen ffordd


Fe ddarllenais i hwn yn y Metro yn Llundain ‘ma ddoe:

Last summer, religious leaders in Belfast urged the return of money when a cash machine started paying out double amounts’

Be wnelet ti ‘tasa hwnna’n digwydd iti? Wi’n gwpod be wnelwn i, fe fyswn i’n cadw pob un geiniog ac fe elwn i nôl tro ar ol tro a gwagio’r peiriant.

Mae’n gas gen i’r banciau – fe wnân nhw dwgyd gen ti bob un cynnig gân nhw. Lladron pen ffordd ŷn nhw erbyn hyn. Wythnos ddiwetha, fe wnetho i dynnu £20 mas o un o’r peiriannau hyn, ond yn ddigon twp dyma fi’n cerdded bant heb afael yn yr arian. Bu imi sylweddoli be’ wnes i bron yn syth, ac doedd neb o gwmpas, felly wi’n gwpod i’r peiriant lyncu’r arian i nôl i mewn. Ond a geso i fy arian nol? – cheso i ffwc.

O’r un brethyn yw BT – pan ddechreuais i fy nghyfrif gyda nhw rhyw dri mis yn ôl, dyma nhw’n gweid y bysan nhw’n tynnu £22 mas o’m cyfrif banc pob mis ar y 15fed trwy ddebyd uniongyrchol. Yn lle gwneud hynny ar y 15fed, dyma nhw ar ddechrau’r mis yn treial tynnu’r £22 mas. Doedd dim arian ‘da fi yn y cyfrif bryd hynny, felly mae’r cais yn cael ei wrthod gan y banc. Dyma nhw wedyn yn treial tynnu’r arian mas eto tri diwrnod ar ôl hynny. Fe geso i gostau gan y banc am £60 a bai BT oedd y cwbl. I ddodi halen ar y briw, roedd shwt wyneb ‘da BT ag ysgrifennu ato i wedyn a gweid y byddan nhw’n codi siars o £20 am nad oedd y debydau uniongyrchol wedi mynd trwyddo. Elli di gredu’r diawliaid hyn. Fe etho i’n benwan ar y ffôn ‘da nhw.

Fis yn ddiweddarach, dyma fi’n cael llythyr arall gan BT yn gweid na fysa’r £22 yn ddigon i gyflenwi fy ngwasanaeth ac y byddan nhw’n codi hyn i £44!! Paid da ti â chredu dim o’u hysbysebion yn cynnig prisiau rhesymol i ddenu cwsmeriaid newydd. Abwyd yw e i’th ffwcio di lan nes ymlaen. Felly gyfeillion, os digwydd i’r peiriant arian ‘na roi gormod o arian iti ryw ddiwrnod, cymer e a chael noson dda mas ohoni ac os digwydd iti wedyn basio heibio i un o swyddfeydd BT ar dy ffordd adre cer i gachu ar eu stepyn drws.

No hay comentarios: