martes, 26 de junio de 2007

The Sound of Music: Trailer Remix

Detho i o hyd i'r ‘trailer remix’ ‘ma am ‘The Sound of Music’. Wi’n siwr bod pawb wedi gweld y ffilm. Wn i’m pwy nath y ‘trailer’ ond mae’n enghraifft wych o sut mae’n bosibl rhoi ‘slant’ gwahanol ar rywbeth a gwneud i bobl gredu bod rhywbeth yn wahanol i’r hyn ydyw mewn gwirionedd ac heb ddweud yr un celwydd yn ei gylch. Mae’n glyfar iawn.

Dwy o’m hoff ffilmiau erioed erioed yw ‘The Sound of Music’ a ‘The Exorcist’. Wi’n cofio bod yn grwt biti deuddeg oed – roedd fy rhieni wedi mynd mas i rywle ac own i’n whilmentan yn y cypyrddau a digwydd dod o hyd i botelaid o wisgi. Tua adeg y Nadolig oedd hi ac roedd ‘The Sound of Music’ mlan ganol prynhawn. Dyma fi’n ista i lawr a watsho’r ffilm ‘ma a phrofi alcohol am y tro cynta yn fy mywyd. Rown i’n dablen sêr erbyn diwedd y ffilm, yn llefain y glaw ac yn credu taw Julie Andrews oedd y peth gorau creodd Duw erioed. Bach yn ‘soft’ ifi, wi’n gwpod ond ‘sgen i’m cywilydd ei weid e – ifi’n ffycin dwlu ar y ffilm ‘ma.

1 comentario:

Dogfael dijo...

Cytuno gyda ti am The sound of music. Fe es i i'r agoriad swyddogol yn Sir Benfro pan gafodd y ffilm ei rhyddhau gyntaf! Dwi ddim yn medru dweud fy mod yn hoff iawn o'r Excorcist, er mae'n siwr ei bod hi'n glasur o'i bath.