sábado, 23 de junio de 2007

Ewan McGregor - [Lipstick on Your Collar] Ep6

Dyma glip o Ewan McGregor yn meimio cân yn un o’r pethau cynta wnath e wi’n credu. Sbel yn ôl roedd Xosé a fi’n cael peint neu ddou yn yr Asparagus yn Battersea. Fe etho i i’r ty bach ac roedd na eitha ciw jwst i gael pishad, felly, dyma fi mor ddiamynedd ag ydw i yn gweid – sod this af i i bisho yn y sinc ac fe wedodd Ewan oedd yn digwydd bod ‘na – syniad da fe ga i bishad ‘na hefyd. Dyna’r unig dro wi wedi rhannu sinc i gael pishad ynddo gyda rhywun enwog.

4 comentarios:

Dogfael dijo...
Este comentario ha sido eliminado por el autor.
Dogfael dijo...

Ti'n ddyn prysur, Ceri. Allen i ddim blogio fel ti a pharhau i feddwi, sielffo, &c. Dal i fwynhau'r sylwadau. Ond mae'r stori 'ma am rannu sinc (bosh) gyda Ewan McGregor yn ffantastig - namedropper! Dwi'n teimlo'n reit eiddigeddus dwi ddim wedi rhannu sinc gyda neb erioed.

Anónimo dijo...

Dwi wedi pisho gyda Ron Wood o'r Rolling Stones. Ond nid yn sinc.

Gwenno dijo...

Nath Jennie Bond (cyn ohebydd y teulu brenhinol i'r BBC) roi dirty look i fi tra o'n i'n golchi fy nwylo yn nhai bach BBC Television Centre pan o'n i'n 16 oed. Cheek!