sábado, 23 de junio de 2007

Wicepedia


Uffach o ddiwrnod da geson ni ddoe. Rown i, Pablo a Xosé ar y rhyngrwyd trwy’r amser ‘blaw am ryw 6 awr yn y canol pan ethon ni fas i feddwi, sielffo a joio mas draw. Rhwnt yr oriau eraill ‘na, be’ nath ein dala ni gatre wrth ein ceilliau oedd y ffycin Wicepedia. ‘ma. Wyt ti siwr yn gwpod be’ yw hwnna – mae fe’n rhyw ‘encyclopedia britanica’ y werin. Y werin sy’n ei ysgrifennu a’r werin sy’n cael ei newid a’i olygu.

Mae na bregethwyr sy’n cael trafferth credu yn yr ‘immaculate conception’ ac wedyn mae ‘da ti’r bobl ‘ma sy’n credu yn y peth ‘ma - wn i’m pam ond pob parch iddyn nhw weda i ac hei wei y gwnan nhw lwyddo i gael rhoi’r bêl yn yn y rhwyd. Wrth gwrs, wastod mae problemau ac fe gei di ambell i ffwrch sy’n rhy dwp i wbod yn well ac yn lico golygu neu newid pethau i siwtio ei steil e o hiwmor plentynaidd a di-fflach ei hun.

Yn anffodus, dyma ichi dri ohonon ni’n cwmpo i mewn i’r categori hwnnw.

Fy nghyfrifiadur oedd e, felly fi gas y dewis cyntaf. Fi ddewisodd Margaret Thatcher ac wedyn aeth Pablo am Franco am ei fod e yr un mor ddi-ddychymyg a fi. Mae Xose yn lot fwy gwleidyddol wybodus na ni , felly aeth e am Fraga - rhyw hen ffasgydd o gyfnod y ‘Caudillo’ sy’n llwyddo bod yn ei chanol hi sbel ar ôl i Franco ei phego hi.

Fe drion ni y wicipedia Saesneg ond wyddost ti be’, mae rhyw fandaliaid wedi bod wrthi’n lladd ar bob un gwleidydd sydd i gael a does dim modd golygu dim - rhag eu cywilydd!! Ond gyfeillion annwyl, dyma le mae siarad mwy nag un iaith yn ennill ei phlwy - lle ma un drws yn cau, mae wastod un arall yn agor - a mwy o ieithoedd mwy o ddrysau - ac felly y buodd hi. Y wicepedia Sbaeneg amdani – fi ddechreuws off ‘ta Margaret Thatcher. Ron nhw’n ei disgrifio hi i ddechre fel ‘politica britanica’, felly gnetho i newid hwnna i ‘aliengenica extraterrestre’ ac wedyn doedd dim stop arnon ni.

Plentynaidd iawn iawn, wi’n gwpod ond ar ol hanner awr o hyn i gyd, roedden ni’n tri yn wherthin cymaint i biso a chachu trwser. Rhyfedd fel mae pethau bach yn plesio ontefe!!

No hay comentarios: