sábado, 16 de junio de 2007

Estimulantes


Uffach o ben tost ‘da fi bore ‘ma. Wn i’m be’ ffwc yfais i neithiwr ond dylsen nhw roi rhybudd ar y botel. Maen nhw’n mynd i wahardd ‘smygu yn y tafarndai ‘ma ym mis Gorffennaf, felly own i’n smoco ‘fatha rhyw hen drwper cyn ifi ddechrau gael fy nhrin fel ‘leper’. Efalle ‘na pam ifi’n teimlo mor glwc. Sai’n gwbod be ‘na i a’m dwylo pan ddaw’r gwaharddiad – gartra fe alla i gael haliad ond fe gelen i ‘y nhowlu mâs ‘swn i’n gwneud ‘na yn y dafarn - wel dibynnu pwy dafarn wt ti’n mynd iddi, mae’r lle hyn yn troi’n debycach i Amsterdam bob dydd.

Mae cymryd cyffuriau’n anghyfreithiol ond fe fysa hanner y clybiau nos yn cau i lawr ‘ffor hyn fory nesa ‘sa nhw ddim yn cau llygad – nid ‘bo fi’n cymeryd cyffuriau neu ddim byd felly. Wel unwaith gnetho i, a gwed y gwir, ond byth eto; cymerais i’r bilsen ‘e’ ‘ma – wedodd y boi ‘ma i fi ei thorri hi’n chwarteri a chymeryd chwarter pan ddela’r awydd, ond roedd y peth mor fach - fel asprin ar gyfer pen tost a don i’m yn mynd i gymryd chwarter o honna, so dyma fi’n llyncu saith bilsen gyfan ar ei ben. ‘Be ffwc ti’n wneud?’ meddai’r boi – ‘paid a becso’ medda fi ‘ifi’n dod o’r cymoedd!' Idiot bues i erioed. Dyma fi ryw awr a hanner wedyn yn teimlo’n reit rhyfedd a’r tŷ bach amdani, ond chyrhaeddais i byth mo’r lle. Geso i ryw ‘blacowt’ yn y coridor fel ‘tasai rhywun yn diffodd teledu. Pobl digon ffein yn nhw yn y clybiau dawns ‘ma ac mae ‘da nhw bobl feddygol ar ddyletswydd yno i ofalu am idiots fatha fi, felly own i’n iawn yn y diwedd ond yn dal i grynu fel deilen rhyw dridiau wedi’r peth, felly gad i hwnnw fod yn wers iti – cymer nhw bobo chwarter – Na paid â ‘mhel a nhw yn y lle cyntaf a rhoi’r gorau i smygu tra bo ti wrthi, mae’r ddou yn ddrwg iti!

No hay comentarios: