domingo, 17 de junio de 2007

Smoco a siopa


Diwrnod ‘shit’ ifi’n ei gael heddi. Es i i’r peiriant arian bore ‘ma; dim ond ugain punt oedd ‘da fi ‘na ond cerddes i bant heb afael yn yr arian. Gobeithio y bydd y banc yn ei rhoi e nôl imi. ‘Sneb gartref yn y fflat a wi bron marw isha mwgyn. Fe wnes i roi’r gorau iddi am wythnos unwaith ond wnes i roi biti dau stôn ymlaen so fuck that meddyliais i wrth fy hunan. Wi’n cerdded rownd y fflat ‘ma fel iâr heb ben ac mae’n pisho bwrw tu fas so bydd y ffagends i gyd yn wylb socan – alla i ddim gwneud ‘rollie’ hyd yn oed. B’raid imi roi lan, fe bryna i bar o batshys ne rywbeth.

Wnes i raido’r tun ceiniogau wedyn - £1.80 oedd ‘da fi – ‘taswn i wedi cael deugain ceiniog yn fwy galswn i fod wedi prynu paced o ffags ond edrychais i ymhobman, y tu ôl y soffa, dan y gwely, lan tin y gath ond dim ceiniog yn rhagor i gael. Roedd want bwyd arno i, felly ethoi i lawr i Somerfield a phrynu paced o choc ices a dau fag o greision - £1.75. Dyliwn i fyta’n iach ond pwy ffwc ots, wi’n yfed a smocio a wi’n mynd mas sbo oriau man y bore, so bydda i off y ddaear ‘ma sbel cyn bod unrhyw choc ice yn ‘y lladd i.

Mae ‘da nhw’r peiriannau ‘self-service’ hyn yn Somerfield, felly wi’n rhoi’r ceiniogau i gyd yn hwnna. Mi fysa ‘na ormod o gywilydd gen i fynd lan at y cownter i dalu mewn ceiniogau. Mae yn cymryd tipyn o amser i’w rhoi nhw i gyd i mewn, sai’n gweid llai, ond dyma’r fenyw a’r llais crach ‘ma yn gweiddu arno i ‘could you please hurry up there, there’s people waiting – am ffordd o siarad â rhywun. Wedes i wrthi hi taw fi oedd ‘ma gyntaf so ffyc off. Golwg ar ei hwyneb wedyn, ond mae rhaid iti ddal dy dir ‘ta’r ‘shit heads ‘ma yn Llundain – maen nhw’n gallu bod mor ‘rude’.

Yn Lidls y bydda i’n lico siopa fel arfer, mae’n uffernol o tshep yn y fanna – fe brynais i botel o fodka am dair bunt ‘na unwaith – oedd e fod yn £7.99 ond wnes i newid y label pris i un oedd ar ryw din o fisgedi. Mae dal yn tshep am £7.99 ond digwydd bod taw dim ond £3.00 oedd ‘da fi. Bysa’n ffycin ddrud ‘sa rhywun yn prynu’r bisgedi am £7.99 though. Y ‘catch’ yw ‘bod nhw’n codi 10c arnot ti am fag plastic a wiw iti gael yr un mawr mae hwnnw biti 50c – mae hwnna’n ‘rip off’ ond yw e. Wedes i wrthyn nhw unwaith taw nid ffycin Harrods oedd e ac fe wedodd y ferch ‘ma nôl wrtho i na fysan nhw’n fy ngadael i o fewn canllath i Harrods – ffycin cheek - dim parch o gwbl!

No hay comentarios: