jueves, 14 de junio de 2007

Malu awyr


Gwneud blog – pam lai? Felly dyma gynnig arni. Siwr gen i na fydd e’n un rheolaidd ond does wbod. Gawn weld fel y daw’r awen a’r awydd. Gwybod bron y nesaf peth i ddim am gyfrifiaduron, felly fan hyn chei di mo’r pethau ffansi neu gysylltu â phethau eraill difyrrach; ar hyn o bryd ta p’un i – eisiau dysgu ydw i ond heb wybod sut mae mynd ati. Ceisio gwneud blog pob wythnos a gweld fel mae’n mynd, dyna wna i – ots gen i os nad oes neb yn ei ddarllen, bach o sbort fydd hi. Celwydd wrth gwrs – wi’n moyn sylw a chanmoliaeth - ond rŷn ni’r Cymru yn lico’r gair beirniadaeth – ffyc o ots os oes rhywbeth yn dda neu’n ganolig neu’n wych, fe wnewn ni ei feirniadu. Pam na allwn ni ganmol. Gwlad o feirniaid ŷn ni. Fe gei di rhyw hen gotsan yn eisteddfodau ‘fan hyn fan draw yn beirniadu camau dawnsio disco rhyw grwp neu’i gilydd – gwna fe dy hun os wyt ti’n meddwl dy fod di mor ffycin dda!

Un da i siarad ydw i, a gwed y gwir, bydda i’n ei wneud e fy hunan yn ddigon aml ond tynnu blewyn o drwyn y bydda i’n ei galw hi neu ryw dynnu coes pur egr fel sy’n ddigon cyffredin yn y cymoedd. Dwyt ti'n neb yn y fan yna ombai bod nhw’n cymryd y ‘piss’ mas ohonot ti! Mae bywyd yn rhy fyr i‘w gymryd ormod o ddifrif.

Bydda i’n gwrando ar Radio Cymru yn reit aml ar y we ac mae’r fenyw Sian ‘na sydd ‘mlan yn y prynhawn yn ‘yn ela i’n benwan. Mae hi mor gyfoglyd wrth siarad â phobl, fel un o hen ffrindiau dy famgu yn dy gyfarch ar ben stryd:

- oh na smart ti’n edrych Ceri bach, lle’r wyt ti’n mynd ta?
- ifi off i brynu bach o gocên, mae’r ‘sex’ yn fendigedig ar ol sniffad neu ddou.
- o na fachan fein wt ti. Mynd mas a dy ffrindiau ife?
- Na, newydd weid ydw i. Wi’n mynd i feddwi’n dablen, prynu bach o gocên a sielffo ‘fatha chwningen
- Na ni ‘te! Ti’n edrych yn debycach i dy dad pob dydd. Cofia fi at dy fam.
- Ffyc off!!

Mae ‘na foi sy’n darllen y newyddion hefyd. Wn i’m pwy yw e ond o rywle yn y gogledd – Clwyd siwr o fod. Mae’n swnio fel ‘tae e wedi hwpo aubergine lan ei din e ar ol sugno’r awyr mas o falŵn. Bach yn ‘camp’ ti’n gwpod. Nid bod unrhywbeth yn bod ar hwnna ond mae fe bach yn ‘irritating’.


Ifi’n byw lawr fan hyn yn Llundain da doi foi o Galisia. Un tro aethon ni mas a chwrdd a’r boi ‘ma o Wlad y Basg ac o bryd i’w gilydd ŷn ni’n mynd mas i gwrdd ag e. Son am ‘camprwydd’ fe alsai fe ddarlithio ar y pwnc. Er ei fod e’n dod o Wlad y Basg mae e’n siarad ag acen Andalucia yn fwy na heb. Dyna’r acen i gael os wyt ti am siarad yn ‘camp’ mae’n debyg. Mae’n acen eithaf ‘lispy’. Mae ‘estupendo’ yn troi’n ‘ethtupendo’ er enghraifft. Os wyt ti wedi gweld rhai o ffilmiau Almodóvar, ag acen Andalucia mae lot o’i ‘drag queens’ yn siarad ac mae wastod rhyw drag queen yn popo lan yn ei ffilmiau. Yn Saesneg mae nifer o bobl ‘camp’ yn dweud ‘she’ yn lle ‘he’ wrth gyfeirio at ddyn ond yn Sbaeneg mae hyn yn gallu mynd yn lot ymhellach am fod ‘na ffurf fenywaidd i ansoddeiriau ac mae’r boi ‘ma yn iwso’r ffurfiau benywaidd trwy’r amser i siarad amdano ei hun a phobl eraill. Mario yw ei enw ond gwneiff e gyflwyno ei hun fel Maria ac fe wediff e bethau fel - ‘no me jode, e que ’toy muy peligrotha!’ sa’n cyfiethu’n rhywbeth tebyg i – ‘paid a ffwcio ‘da fi, ifi’n fenyw reit dansherus! A chredi di fi, mae fe’n gallu edrych ar ol ei hunan. Fasa neb yn meiddio ei groesi fe. Mae fe wedi cael ei dowlu mas o lwythau o glybiau am ymladd, ac fe sy’n ei ddechrau fe wastod. Mae’n berygl mynd mas ‘dag e weithiau.

Wn i’m pwy enw i roi ar y blog hwn; mae fel ‘ta pawb angen cael rhyw enw rhyfedd i greu argraff – ceri ydw i ac mae’na Wyn yn y canol a Jones wrth ei gwt e, ond mae ‘na fardd enwog â’r enw llawn hwnnw a wi’m isha difrïo ei enw da a’m sylwadau anystyriol. Caf fy ngalw lawer beth ond byth yn fardd – bastard ie, sy’n swnio’n reit debyg ond stori arall yw honno. Enw digon cyffredin yw e ‘ed. Yn y coleg ers achau dyma’r darlithydd yn dweud ‘tho i nad oedd yn sylweddoli ‘mod i’n gallu canu’r delyn. Rhyw Ceri Wyn wedi ennill cystadleuaeth canu telyn yn rhywle – y nefoedd am a wn i – a hwnco’n meddwl taw fi oedd e. Merch oedd honno wrth y delyn wrth gwrs heb fod yn ‘sexist’. Mae dynion yn gallu canu’r delyn hefyd ond byw yn San Fransisco maen nhw i gyd erbyn hyn. Sôn am yr enw Ceri, allai i’m deall yn fy myw pam ‘fod e’n enw merch hefyd. O’m profiad innau enw i fechgyn yw hi yn y de ac enw merch yw hi yn y gogledd; wn i’m os yw hwnna’n wir ai peidio.

Sut mae cyfarch pobl ar flog? Cofio darllen llyfr yn y Gymraeg am ryw arholiad neu’i gilydd ryw dro; ffuglen oedd hi ond yr awdur yn cyfarch y darllenydd yn uniongyrchol fel ‘darllenydd hynaws’. Sut oedd e i wybod bod ganddo ddarllenydd ac yn fwysicach fyth ei fod e’n hynaws. Hynaws ‘my arse’ Gallasai fod yn ymgnawdoliad o Jack the ripper, wrthi’n dysgu Cymraeg ar ol diberfeddu rhyw butain yn strydoedd tywyll Llundain ‘ma – ‘dere ‘ma bishyn, gad ifi gal dwmlo pwy mor bell eiff y y gyllell ‘ma yn dy gabitsh di’ - ‘iaith pawb y cynulliad’ amdani!! Gallai fod yn waeth ac yn un o’r beirniaid ‘shit’ ‘na sy’n britho ein diwylliant. Y peth yw, nid beirnadu eisteddfodol ac ati sy’n codi cyfog arno i, jocan ydw i fanna; ffordd mae Cymry’r ‘pethau’, am well air, am gadw pobl eraill ar y tu fas neu yn eu lle sy’n ‘y nghorddi. Os wyt ti eisiau ysgrifennu llyfr am hanes leol dy fro er enghraifft a thithau ddim yn un o’r clic Cymraeg academaidd ac heb brofiad coleg ar dy gyfyl, pwy yw’r dieithryn hunanwybodus ‘ma gei di. Mae’n mynd yn bell nôl yn ein hanes, mae gennym iaith ffals lenyddol na chlywyd erioed mohoni ar lafar gwlad a dirmygu tafodiaith o’i herwydd. Mae cymaint o Gymry ofn ysgrifennu neu siarad yn y Gymraeg am y feirnadiaeth a chywiro di-stop a ddaw yn ei sgîl.

Nid cefnogi y bobl sy eisiau llurgunio iaith ydw i chwaith, y rhai sy’n dod a Saesneg di-angen a chystrawennau chwithig er mwyn dod a’r iaith yn ‘agosach’ at y bobl a ystyriant yn llai deallus na nhw - ochr arall y geiniog yw hwnnw a ‘sgen i fawr o fynedd gyda nhw chwaith. Siarad am rai o bobl y cyfryngau ydw i ‘sbo. Dyw bratiaith ddim yn ennyn parch neb ac mae pobl yn ymwybodol taw bratiaith yw hi. Nid yr un peth yw tafodiaith a bratiaith. Gorau po gynta bod nhwythau’n deall hynny. Dyw bratiaith ddim yn haeddu parch neb a di-raddio’r iaith wnân nhw yng ngolwg y werin wrth ei hyrwyddo. Wnaiff hyrwyddo bratiaith ddim helpu’r Gymraeg yr un iot. Mae pawb yn disgwyl safon: Llurgunio a diraddio’r iaith - i be? - chei di byth barch amdano.
Mae jwst wedi troi dau o’r gloch ac ma’r blydi fenyw Sian wedi dod ar y radio, felly off a hwnna. Dyma hi’n dechrau’r rhaglen – ‘shwt wt ti, iawn? DA IAWN! – ffycin hell, mae angen gras weithiau.

3 comentarios:

Bonheddwr dijo...

Croeso i fyd y blogwyr Ceri bach! Bydd rhaid i ti flogio yn fwy aml na unwaith yr wthnos, busnes dyddiol yw'r blogio ma i fod, neu os ti'n "Sanddef Rhyferys' sawl gwaith y dydd! Wel yn Saesneg beth bynnag...

http://e-clectig.blogspot.com/
http://this-is-sparta.blogspot.com/

Rhaid i ti flogio yn weddol aml ti'n gweld, neu fydd neb yn dod nôl. Mae digon yn dy bost 1af i lenwi tua wythnos gyfn beth bynnag! ;-)

Very Gwd Nawr (britiaith da Sir Gâr!)

Hedd.

Cer i Grafu dijo...

Tough shit (bratiaith Cwm Rhondda!)Fe gei di be' gei di ac fe gei di be' wyt ti'n ei gal ;-)

Rhys Wynne dijo...

Pyst byr (lled rheolaidd) yn well na traethawd pob mis ;-) ond dy flog di ydi o. Croeso i'r Rhithfro - ti'n sado fel ni rwan