martes, 26 de junio de 2007

Cathod


Diwrnod hir yn y gwaith heddi. Dyma hi’n tynnu at un ar ddeg a newydd gyrraedd gartre ydw i, a bydd yfory yr un peth. Mae’n gas gen i weithio, bysa’n well o lawer gen i ennill y loteri.
.
Bu raid imi brynu bwyd a thywod i’r gath hefyd a chario’r stwff adre gyda fi. Mae’r pethau hyn yn pwyso ac maen nhw’n bell o fod yn tshep. ‘Happy Kittie Cat Litter’ myn yffach i - efallai bod y gath yn hapus ond own i’n tampan; dim ond yr un mawr oedd ‘da nhw a chostiodd hwnna £7.99 imi. £7.99 a dim ond tywod a graean a rhyw ‘shit’ felly yw e – ffycin ‘rip-off’.
.
Sai’n deall cathod o gwbl, os nag ŷn nhw’n cysgu maen nhw’n byta a chachu trwy’r dydd. Ganol nos bob nos bydd y Julieta ‘ma yn cadw diawl o sŵn yn crafu a thowlu’r tywod dros lawr yr ystafell ‘molchi i gyd. Fysa ‘na ddim cymaint o ots gen i ond nid fy nghath hi yw hi. Wi wedi bod yn ei charco hi dros y boi ‘ma. Roedd e’n gorfod mynd nôl i Sbaen am dair wythnos ond roedd hyn i gyd nôl ym mis Awst y llynedd. Wi’n credu ‘bo fi wedi cael fy nala – dyna’r tro diwetha y bydda i’n helpu neb mas.
.
Fe ddigwyddws peth tebyg imi flynydda nôl pan own i’n byw yng nghyffiniau Caernarfon. Roeddwn i’n cerdded nôl o dre un nos Sadwrn a dyma’r gath 'ma yn fy nilyn i adre yr holl ffordd o Gaeathro, i lawr i Waunfawr ac i fyny at Geunant. Fy mai i am roi bwyd iddi hi wedyn – roedd hi dal gyda fi o’r foment honno hyd nes iddi farw, ond fe wnetho i roi angladd reit barchus iddi a’i chladdu yn yr ardd ffrynt.
.
Dyna be’ sy’n fy mhoeni i bthdi’r gath hon. Be wna i ‘da hi pan fydd hi’n marw – wi’n byw mewn fflat ar y chweched llawr, felly mae’n sefyllfa bach yn anodd. Gofynnais i i ‘Battersea Dogs Home’ sydd ond lan yr hewl be fysa orau ond wedon nhw bod nhw ond yn cymeryd anifeiliad byw. Gofynnais i i Pablo hefyd ond wedodd e inni ei thowlu hi yn y bin sbwriel, ond un fel ‘na yw e – ‘sa fe’n gwneud yr un peth imi heb feddwl ddwywaith. Fe allwn i fynd draw i ‘Battersea Park’ a thorri bedd iddi yn y fan yna, ond mae’r tir yn uffernol o galed. Wi’n credu y gwna i glymu bricsen wrth ei phawennau a’i thowlu hi yn y llyn sy ‘da nhw fanna – mae hi’n lico pysgod.
.
Dyw hi ddim yn gath gyfeillgar iawn ‘chwaith – bysa hwnna’n help. Yr unig amser mae hi isha sylw yw pan bod hi’n boeth ac mae hwnna’n reit aml am ryw reswm. Mae’n wir boendod ar yr adeg ‘na. Dylswn i dreial cael gwrcath iddi ond mae un gath yn ormod. Mae Xosé yn gwpod shwt mae ei thrin hi pan fo hi fel ‘na. Mae’n rhoi bach o fwythau iddi ac wedyn yn sydyn reit mae’n hwpo ei fys e lan ei thin. Mae’n gollwng uffach o sgrech ac wedyn mae’n diflannu am dridiau o dan y gwely neu rywle – mae bron yn amhosib ei ffindo hi. Y peth sy’n od yw pan mae’n dod nôl mas, mae’n mynd yn syth am Xosé. Efallai ‘bod hi lico’r profiad – wi’n gwpod na fyswn i ddim.

2 comentarios:

Dogfael dijo...

Dwi mewn Ysgol Haf ym Mangor ar hyn o bryd ac fe geson ni gyflwyniad ddoe yn 'profi' na fyddet ti ddeng miliwn gwaith yn fwy hapus o ennill deng miliwn o bunnoedd! Roeddwn i meddwl y buasai'n well imi ddweud rhag ofn iti gael dy siomi!

Cer i Grafu dijo...

Pobl sydd heb ennill deng miliwn o bunnoedd sy'n gweid hynny glei!