domingo, 24 de junio de 2007

Jackanory



Wn i’m be fytes i ddoe ond mae rhaid bod e ‘n ‘condemned meat’ ne rywbeth. Newydd fod yn y ty bach - am ddrewdod, ifi’n mynd i gadw mas o fan ‘ny am heddi. Fe wna i bisho yn y sinc os bydd rhaid.

Bues i wrthi’n gwylio’r ffilm ‘ma off SinLaMula.com trwy’r prynhawn. ‘Blancanieves y los 7 enanos’ yw ei henw hi, un o ffilmiau Walt Disney. Mae’n uffernol o dda. Stori am y dywysoges bert ‘ma yw hi a’i pherthynas a’i llysfam newy – mae ei llysfam newydd hi yn rêl hen ast o fenyw ac mae’n hi’n meddwl ‘bod hi’n bertach na neb.

Bob dydd dyma hi’n gofyn i’r drych ‘ma pwy yw’r un berta yn y deyrnas – bach yn ‘far-fetched’ yw’r darn hyn ‘ta’r ffycin ddrych yn siarad ond falle ei bod hi ar ddrygs a rhith yw’r peth, sai’n gwbod. Ta beth, un diwrnod dyma’r drych ‘ma yn gweid wrthi bod y Blancanieves ‘ma yn lot bertach na hi, so fuck you. Wel os felly; dyma ichi’r fenyw ‘ma wedyn yn cael eitha ‘cob on’ - prin mae’n gallu siarad, mor ‘pissed off’ yw hi. Bysa’r rhan fwya o bobl yn cael drost y peth, ond nid hon – mae hi ond moyn lladd y grotes fach - mae’r holl ddrygs ‘na wedi ei hela hi’n baranoid.

Mae’n galw ar un o’i helwyr a gofyn iddo fe fynd a Blancanieves am dro fach yn y goedwig iddi hi gael casglu blodau - as you do. Wedyn mae e fod i’w lladd hi a thynnu ei chalon hi mas a’i rhoi yn y gist fach ‘ma i ddangos i’r frenhines – ac Ia, hi yw’r frenhines, so mae rhaid iddo fe ei wneud e. Un ‘crazy bitch’ yw’r cwin ‘ma - wiw iti groesi cleddyfau gyda hi.

Wel, mae’r ‘heliwr ‘ma bach yn ‘soft’ yn y pen ac mae’n gweid wrth Blancanieves i redeg am ei bywyd hi, i ddiengyd trwy’r goedwig. Mae fe’n mynd ati wedyn i ladd y carw ‘ma a chalon hwnnw mae fe’n rhoi yn y gist – am ffycin idiot, byswn i wedi ei lladd hi yn y fan a’r lle - ti jwst yn gwpod bod y ffycin ddrych ‘na yn mynd i snitchan arno fe, a chaiff y fenyw ‘psycho’ gael gwpod be wnath e - a dyna be sy’n digwydd ond wna i ddim sbwylo’r stori ichi.

Dyma Blancanieves yn rhedeg off wedyn i dywyllwch y goedwig, ond dyw hi ddim mor wael â hynny yno – mae’n amlwg ei bod hi wedi bod yn sniffan bach o’r stwff oedd ‘da’r frenhines, ei llysfam. Dyma hi’n dechrau canu’n hapus braf a dawnsio tros y lle i gyd gyda llwyth o anifeiliaid bach o’i chwmpas. Ond mae eisiau rhywle i gysgu’r nos arni hi ond oes e, a dyma’r anifeiliaid yn dweud wrthi am y tŷ bach twt ‘ma – a gwed y gwir chlywais i mo’ nhw’n gweid ffyc all, ond roedd hi’n eu hateb nhw nôl fel tasan nhw’n gweid rhywbeth - dyna be mae cyffuriau yn gwneud iti.

Felly dyma hi’n dawnsio off at y bwthyn ‘ma a’r anifeiliaid ‘ma yn arwain y ffordd – erbyn diwedd yr holl ganu a dawnsio own i’n dechrau cadw ochr ei llysfam rhyw fymryn. Mae’n cyrraedd y bwthyn ‘ma wedyn lle mae saith o gorachod yn byw, ond dyn nhw ddim yno ar y pryd am eu bod nhw mas yn gweithio. Bastards digon brwnt yw’r corachod hyn ac mae’r lle yn sangdifang a llwch a bryntni ymhob cornel. Ac wrth gwrs, dyma hi a’r anifeiliaid yn dechrau canu a dawnsio eto i gyd tra bo nhw wrthi’n c’lau a chymoni’r ty. Mae angen bach o amynedd ta’r Blancanieves ‘ma weithiau – dylsai hi fod wedi ffonio Hedd; bysa fe wedi bod wrth ei fodd yn helpu c’lau’r ty, ond wn i’m am y canu.

Ac felly dyna le mae Blancanieves yn meddwl ‘bod hi'n saff ac hapus yng nghwmni’r corachod drewyllyd ‘na, ond dyw hi ddim wrth gwrs – ‘sdim dala’r llysfam psycho yn ôl; os nag oedd yr heliwr yn gallu gwneud y job mi fydd honno yn siwr o’i wneud e. Wna i ddim sbwylio’r stori ond bydd rhaid ichi ei gweld hi – own i ar bigau’r drain reit tan y diwedd pan ddechreuon nhw ffycin ganu a dawnsio ‘to.

No hay comentarios: