sábado, 24 de mayo de 2008

Pel-droed, ffrindiau a Chymry Llundain (1)


Etho i mas i’r dafarn ‘ma i weld gêm pêl-droed ddydd Satwn diwetha; ‘sda fi gynnig i bêl-droed a gwell gen i fynd wthnos heb ryw na gorffod watsho’r dynon ‘na yn cico pêl rownd rhyw ga neu’i gilydd, ond ‘odd Caerdydd yn wara Portsmouth - a gêm reit bwysig oedd hon i fod yn ôl y sôn.

Own i yno am bod Rhiannon, un o’m ffrindiau gora, wedi dod i lawr ar ymweliad gyda’i gŵr hi; aeth ei gwr hi wedyn i weld y gêm yn Wembley cyn cwrddyd lan â ni wedi’r peth. Esgus i Rhiannon odd y gêm ‘ma - iddi hi gal dod i lawr i Lundain, ac ifi a Rob ddala lan gyda ddi a chal tancad ffein yn y fargen. Ma’ ddi’n sbel odd’ ar ifi a Rob ei gweld hi ond dyw amsar ddim yn creu bwlch gyda rhai ffrindiau ac roedd hi fel taw ddoe buson ni mas yn galifanto ar hyd y lle.

Odd Rhiannon yn gwpod fy hanas i gyd. Own i heb weud wrthi bo fi’n ysgrifennu blog, ond ma’ ddi wedi clwad amdano ac ma’ ddi’n un o’r ychydig sy’n ei ddarllin. Wetws hi wrtho i bod ei war hi – Miriam – wedi doti’r gair ‘ffwrch’ yn ‘google’ ar funud wan ryw ddwyrnod a dath cofnod o’m blog i lan am ryw reswm. Ffonws hi Rhiannon wetyn a gwed wrthi i ddrychyd ar flog y boi ‘Cer i Grafu’ ‘ma. Rhyfedd fel bo ffrindia yn dy napod di lot fwy na bysat ti’n ei feddwl – own i’n meddwl bo fi’n reit ‘anonymous’. Trias i wadu’r peth wthgwrs, ond mae Rhiannon yn fy napod i’n rhy dda.

Cwrddson ni yn y dafarn ‘ma lle ma' rhai Cymry’n mynd i weld y gemau rhyngwladol – ‘Three Kings’ yw ei henw hi yn South Kensington a cher fynna os byddi di’n paso heibo ryw benwthnos gêm – er bod codi £3.00 i fynd i mewn i dafarn am 2 o’r gloch y prynhawn a chal gwydra plastig wedyn yn ffycin ‘rip off’. Mae isha i bobl achwn biti’r teip hyn o beth; wetas i wrthdyn nhw wrth bo fi’n gatal, ond fi geso i fy ngwahardd am byth am fod yn boen - meddan nhw. Nid ymgyrch i un person yw hon ond ymgyrch i bawb sy’n teimlo'n grac biti fe.

Odd ’na growd o’ni erbyn diwadd – bai Rob odd hwnna; ma fa’n deip sy’n clasgu pobol o’i gwmpas e fel cilion rownd pen-ôl y fuwch. Cymry oedd pob un o’nhw ‘ed; ma’ na yffach lot o Gymry yn Llundain ond wi ddim yn napod lot o’ nhw - o ran dewish yn fwy na heb. Roedd wech o'enyn nhw a gwed y gwir, ond fel mae Rob yn gweud – odd tri o’ nhw’n ‘supercilious twats’ a fysa’r tri arall ddim yn pisho arnot ti ‘sat ti ar dân. Pob un jobyn posh sydd i gal, man nhw’n ei wneud e - cyfreithwyr, athrawon, cysylltiadau cyhoeddus bla bla bla.
Wi’n gwed bo fi’n gwitho i MI5 yn Vauxhall os man nhw’n gofyn ifi ac alla i ddim siarad am y peth oherwydd natur y ffycin gwaith - gas gen i Gymry na neb sy'n lico meddwl bo' nhw'n bwysig.

No hay comentarios: