jueves, 24 de abril de 2008

Pablo a’r offeiriad Juan Rodriguez Cabrón


Wi heb flogo ers sbelan nawr; ma’ na reswm am hynny ac erbyn hyn, ots gen i pwy sy’n cal gwpod - ifi ar ben fy nhennyn!

Ma’r ford yn shiglo pob tro wi’n mynd ati ac ma llyfra yn cwmpo off y silffoedd bob hyn a hyn; ma’r cyfrifiadur yn dod mlan a mynd off ar ei ben ei hunan ac ma’ Pablo’n wara’r hen ddiawl – wn i’m be’ sy’n bod arno fe, wir Dduw.

Dechreuws hyn i gyd pan fu farw Mr Wilderbeast i lawr y coridor ac wthnos union ar ôl inni watsho ‘The Living Dead’ ar y we gyda’n gilydd. Aeth petha mor wael fel y bu rhaid i Xosé glymu Pablo wrth y gwely. Roedd e’n mynnu taw General Franco oedd e am ryw ychydig a dychra martsio i lan ac i lawr y coridor yn gweiddu Viva Espana ar dop ei lais. Roedd hwnna’n ormod i Xosé a gofnws e i’r offeiriad Juan Rodriguez Cabrón alw draw o’r eglwys gatholig i gael gair ag e - ac ma’ fe’n galw miwn pob dydd odd’ ar ‘ny.

Bach o boen yn y tin yw padre Cabrón a gwed y gwir – ma’ fe’n ailadrodd yr un weddi ‘ma yn Lladin tan oriau mân y bore wrth erchwyn gwely Pablo. Mae hwnco wedyn yn cal modd i fyw wrth regi a thyngu fel hen labrwr ato fe a rhochain fel mochyn pob hyn a hyn – wi’n siŵr bod pawb yn y bloc yn gallu eu clywad nhw wrthi!

Wetas i wrth Xosé i gael pip ernyn nhw un noswith – ti’n clwad shwt gymid o betha am yr offeiriadon ‘ma’n camfihafio. Dyma Xosé yn gweud wrtho i wedyn bod padre Cabrón ar ei bengliniau yn dyfynnu mas o ryw lyfr defodau a Pablo yn ishta i lan ar y gwely â’i ben e rownd y ffordd rong – ond bysa dim byd ‘nela Pablo yn fy synnu i.

‘Netho i gwcan ‘macaroni cheese’ iddo fe pwy ddiwrnod ac ar ôl i Xose ei fwydo fe â’r llwy, fe etho i i mewn i moyn y plât. Wara teg i Pablo, roedd e wedi byta’r pryd i gyd. Dyma fi’n gofyn iddo fe a oedd e wedi mwynhau – ¿gustouche a comida, non? (joiest ti’r bwyd, do fe?) - am taw felly ma’n nhw’n siarad yng Ngalisia. Wetws e ddim byd ar y dychra ond ar ôl ifi ofyn am y trydydd tro, dyma fe’n wdu’r holl beth lan yn ‘y ngwynab. Dyna’r tro diwethaf wi’n cwcan ‘macaroni cheese’ iddo fe – gaiff e salad o hyn ymlaen ‘sbo fe’n dysgu bihafio ei hunan yn well.

Mae mam yn dod i aros o fewn pythewnos a gobeitho y bydd e’n well erbyn ‘ny neu fe all Pablo, Franco neu Pazuzu ne’ be’ bynnag ma fe’n lico ei alw ei hunan y dyddiau diwethaf ‘ma fynd i aros i lawr at hostel y digartref ‘sbo mam yn gadael.

No hay comentarios: