domingo, 6 de abril de 2008

Nyrs Rakwonoff a'r dwsin a ehedodd dros nyth y gwcw


Wi’n cal bach o draffarth i gadw off y ffags ar hyn o bryd – ifi’n iawn o ddydd Llun i Ddydd Iou, ond fi’n dueddol o binj-smoco dros y Sul. Wi’n moyn bod yn wahanol i’r dorf ond, er fy ngwaetha, os yw’r dorf yn smoco - fi wna i ei dilyn hi i Timbuktu a nôl.

Doedd dim amdeni – roedd angen cymorth arno i ac fi wedi ymuno a’r grŵp ma –
www.gosmokefree.co o dan nawdd yr NHS. Ffonas i nhw lan a chal fy ngwahodd i’r cyfarfod ‘ma ddydd Iou diwetha yn ysbyty cyffredinol Tooting.

Yn yr ysbyty, bu raid ifi ddewis pwy gymorth own i’n mynd i gymeryd – nicotine replacement therapy – fel man nhw’n ei galw hi. Roedd patshys nicotîn, y teclyn ‘ma i hwpo lan dy drwyn di ac sy’n chwistrellu dôs o nicotîn, gwm cnoi, rhyw fath o losin i sugno, ‘microtabs’ a oedd yn edrych fel rhyw e’s bach - a’r ‘inhalator’ ‘ma. Ar ôl siarad â Nyrs Rakwonoff, dewishon ni’r ‘inhalator’ ifi, sydd fel rhyw fath o sigarét blastig am bobol sydd angan rwpath i ddala yn y llaw – wedi’r cwbwl, alla i ddim cal wanc pob tro ifi’n moyn ffag neu bydd croen fy mhidyn i’n cwmpo off.

Bu raid ifi ishta i miwn ar ddarlith gan Nyrs Rakwonoff wedyn. Roedd biti ugain ohonon ni ac am fod yr ysbyty cyffredinol ‘ma reit ar bwys ysbyty meddwl Springfield, roedd hannar y bobol ar y cwrs wedi ymuno er mwyn cal prynhawn bant o’r gwallgofdy.

Teip Mrs Hilter â gwen ar ei gwynab oedd Nyrs Rakwonoff. Y peth cynta ‘nath hi oedd dod mas â’r chwistrell bersawr ‘ma a’i chwistrellu dros bob man a gweid wrthon ni na fysan ni’n drewi fel Pepé Le Pew ar ôl rhoi’r gorau i smoco - you can smell a smoker a mile off – meddai hi. Own i’n pallu credu’r peth – ffacin cheek!!

Bu raid inni gyd wthu i miwn i’r teclyn ‘ma wedyn i weld pwy mor wael oedd ein hysgyfaint ni ne' rwpath - a dyma hi’n edrych ar y canlyniadau a gweid y bysa ein hannar ni yn marw o fewn blwyddyn ne ddwy ‘tasan ni’n cario mlan i smoco. Wetws hi ddim pwy hannar, ond own i’n cymryd ‘bo fi yn yr hannar ‘na.

Wedi ‘ny, fe geson ni weld cwpwl o luniau o bobl oedd i fod yn eu pedwar degau ond a oedd yn edrych yn depycach i bobol oedd yn tynnu at y pedwar ugain – a hynny am fod smoco yn heneiddio’r croen - ond ifi’n napod lot o bobol yn eu pedwar degau sy’n edrych yn hen ac heb smoco eriod – efallai bod nhw’n byta gormod o ‘chickpeas’ a bo’r rhain yn dy heneiddio di hefyd.

Roedd llun arall wedyn yn dangos y babi ‘ma yn y groth â ffag yn ei law a’i wynab e fel hen ddyn - 'nath hwnna neud inni gyd wyrthin ac ysgafnhau’r awyrgylch. Aeth Nyrs Rakwonoff bach yn grac a gweid ei bod hi’n bwysig peidio â smoco pan fo’r fenyw yn fraishg ond doedd ‘na’r un ohonon ni yn y grŵp yn erfyn babi, felly chas hwnna fawr o effaith.

Ei piece de resistance oedd dod mas â’r ysyfaint du ‘ma mewn bag plastig a gofyn inni ei basio fe rownd o un i un. Gwrthryfelodd y grwp wrth weld y bag ‘na a gweid wrthi hi i roi’r ffacin bag ar y ford a bysan ni’n dishgwl arno fe wedyn. ‘Odd hi ddim yn hapus iawn biti hwnna ond am nad oedd neb yn folon citsho yn y bag plastig â’r ysgyfaint yndo, buws raid iddi hi ei ddoti fe ar y ford yn y diwadd. Fe driws hi weid taw model plastig oedd yr ysgyfaint ‘ma ond roedd y cyfarfod ar dir yr ysbyty a heb fod nepell o’r mortiwari 'chwaith ac doedd yr un o‘n ni’n ei chredu hi.

Y perl diwetha wetws hi oedd bod smoco yn dy ‘ela ti’n impotent ond wetas i wrth y bois wrth fy ochor i ‘bo fi’n smoco ers blynydda ac eriod wedi cal y broblem ‘na, a dyma ni’n cal sgwrs biti’r peth nes bo’ Nyrs Rakwonoff yn dychra stampo ei thraed ar y llawr a gweiddu – you may not have a problem now, but you will ‘ave in two or three years time! ‘Nath Sam wedyn – y boi ‘ma wrth fy ochor i – sefyll lan a gweid – but you said, half of us would be dead in a year or two; you can’t have it both ways – will we be dead or will we be impotent....?

Aeth y lle’n ffradach wedyn a phawb yn wyrthin a dychra siarad ymysg ei gilydd. ‘Nath Nyrs Rakwonoff benderfynu roi pen ar y ddarlith ar ôl hwnna, ond ma’ rhaid inni i gyd fynd nôl o fewn pythewnos er mwyn cael rhagor o’r stwff patshys ac ‘inhalators’ ‘na - ond gobeitho wir na fydd hi’n rhoi darlith arall inni.

2 comentarios:

Anónimo dijo...

Wow, rwyt ti o ddifri am y stwff rhoi-gorau-i'r-smygu 'ma. Diolch am y cymhelliad. Heb angen i mi boeni am fynd yn impotent - fersiwn benywaidd? na - rhaid angen poeni am farwolaeth, am wn. (Ella mai'r rhaniad 50% marwolaeth, 50% impotence yn cael ei wneud ar sail rhyw? Bydd y merched yn marw a'r dynion yn colli rheswm - a gallu - i gael codiad?)

Seriously, pob lwc, mi wn pa mor anodd ydy hi (mae fy mheswch yn ol, ond tydi o'm yn fy rhwystro rhag smygu - pathetig). Mae'n swnio fel ti'n smygu llai yn barod, penwythnosau neu beidio. Gobeithio y bydd yr inhalor yn helpu.

Cer i Grafu dijo...

Diolch iti- mae'r inhalator yn iawn ond wi'n dueddol o'i gnoi e'n bishys. Dyfal donc...