sábado, 5 de abril de 2008

Cadw trwyn yn nhin dy hunan


Geso i alwad ffon gin mam heno – mae hi wastod yn fy ffono i pan fo rhywun dre wedi marw, er nag ifi’n napod ne’n cofio eu hannar nhw.

Dyma hi’n gwed wrtho hi bod Mrs Wong, Bronant wedi mynd at ei diwadd - rhyw ddamwain ar y pafin ne' rwpath. Own i ddim yn gwpod am bwy oedd hi’n siarad ar y dychra - a dath y gola ddim lan yn fy mhen ‘sbo mam yn mynd yn grac a gweiddu ei bod hi'n son am Mrs Daffadowndiliwongwong, fel yr ôn ni’n gryts yn ei galw hi - a'i bod hi wedi ei phego hi wrth basio heibo i dafarn y 'Red Cow' yn Nhreorci.

Roedd Mrs Wong yn arfadd cadw cennin Pedr plastig yn ffenest ei hystafall ffrynt o flwyddyn i flwyddyn, ond wn i’m shwt odd mam yn gwpod y glasenwau ‘roen ninna’n blant yn rhoi ar y cymdogion am eu harferion rhyfadd ‘chwaith.

Ta p’un i, fi gofiais i wedyn ifi fod yn yr ysgol gyda Gari - ei hŵyr - a dyma fi’n ei ffono fe er mwyn rhoi cydymdeimlad a phethach fel ‘na – ond y draffarth geso i wedyn; doedd hi’m gwerth y draffarth - wir yr!

Doedd Gari a fi byth yn tynnu mlan ond chredi di byth - dyma fe’n gwed wrtho i i gadw fy nhrwyn yn fy nhin fy hunan a chau ceg, a bod arian yr insiwrans yn bwysig i’r teulu ac roedd eu mam-gu yn werth lot fwy o arian yn farw na’n cerad ar hyd strydoedd y cwm.

Sôn am dreial cydymdeimlo a helpu rhywun – nai i byth ‘to!