miércoles, 12 de marzo de 2008

Diwrnod dim ysmygu


‘Diwrnod dim ysmygu’ yw hi heddi – diwrnod a drefnir gan ryw elusen sy’n cal ei chefnogi gan y llywodraeth a mudiadau gwirfoddol i dynhau’r sgriws ar bobol i roi’r gorau i ‘symgu - neu i helpu’r rhai sydd am roi’r gorau iddi.

Wn i’m pam maen nhw’n cael dyddiau arbennig fel hyn; dŷn nhw ddim yn cael ‘diwrnod dim bwyta’ i helpu pobol sy’n rhy dew rhag saco’r bola’n dynn. Mae gordewdra yn achosi afiechydon ac angau hefyd. Wi’n pallu cael smoco yn y dafarn, mewn bwyty neu ar y bws ond mae’r bobol dew yn cymryd lan dwy sedd yn lle un a ‘sneb yn gwed dim byd wrthyn nhw – dyw bywyd ddim yn deg.

Rwyf wedi darllen bod pob ffag yn cynnwys dros 4000 o gemegion ac o leia 400 o bethach eraill gwenwynol ac mae’n rhaid taw dyna’r rheswm pam bo’ nhw mor ddrud – ac mi fyddan nhw’n ddrutach ar ôl y Gyllideb heddi.

Hefyd, mae ysmygu yn lleihau eich bywyd o ryw chwech i saith mlynedd, felly gorau po gyntaf y rhowch chi’r gorau iddi. Fodd bynnag, os ŷch chi’n dal i smoco a chitha’n tynnu at eich pedwar ugain, fe wnewch chi ond byw biti blwyddyn yn hirach os byddwch chi’n lwcus, felly does dim lot o bwynt rhoi’r gora iddi wedyn - ac mae’n siŵr gen i bo’ chi wedi niweidio’ch corff y tu hwnt i bob achubiaeth ac felly, man a man ichi gario mlan a joio’r mwgyn. Mae ‘na ddigon o betha eraill alliff eich lladd chi yn yr oedran ‘na - ma’ croesi’r hewl yr un mor beryg ag yw ambell i ffag.

Wi’n teimlo’n reit hunanfodlon am bo’ fi wedi achub y blaen arnyn nhw a thorri i lawr ar fy smoco ers tair wthnos. Dros y tair wythnos diwethaf, wi ond wedi smoco biti pedwar pecyn o ddeg ac un paced o ‘Cutters & Grants Rolling Tobacco’. Dyw hwnna ddim yn ffôl o gwbwl greda i – ac a bod yn onest, yn f’achos i, mae’n ffycin wyrthiol.

Bydda i’n byta lot o loshin yn lle smoco ac ifi wedi mynd trwy uffach lot o ‘Werther’s Originals’ a ‘Haribo Kiddies Super Mix’ – lot gormod o’enyn nhw a gwed y gwir. Efallai bydd fy ysgyfaint yn gwella o’r hen ‘tar’ ‘na, ond bydd fy nannedd i’n dychra cwmpo mas cyn bo hir.

Efallai ‘na i gael mwgyn ne’ ddou heddi – ‘diwrnod dim ysmygu’ myn yffach i - wi’m yn lico dilyn y dorf; a gwed y gwir, bastard bach lletwith odw i. Dyna be ‘na i – fi alla i roi’r gora iddi o’r newydd yfory.

3 comentarios:

Anónimo dijo...

Bastard bach lletwhith hunan-dosturiol ac yn medru sgwennu llithyn crafog - o yn sicir wi moyn mwy o 'yn!

Hogyn o Rachub dijo...

Ti'n ffendio bo chdi wastad isio ffag ar ôl yr hysbysebion gwrth-smygu efo pobol sal?

Cer i Grafu dijo...

Dyna fi ar ei ben - sad but true!!