viernes, 7 de marzo de 2008

Byd y theatr a'r cerflun byw


Fi drefnas i gwrdda Gonnie yn ‘Covent Garden’ brynhawn dydd Sul ond bu raid ifi aros biti awr nes bo hi’n troi lan; wi wir ddim yn deall pobol sydd ddim yn troi lan ar amsar. Mae fy ffrind Rob wastod yn hwyr fel ‘na, ond ifi’n gwpod shwt un yw e ac os trefnwn ni gwrddyd am wyth, fi wna i gyrraedd biti naw ac yn wir iti, bydda i’n dal yno biti cwartar awr cyn iddo fe gyrraedd y ffycin lle.

Bu raid ifi aros wedyn ar fainc ynghanol yr holl dwristiaid, yn dishgwl ar y boi ma’n esgus bod yn gerflun byw. Roedd rhyw wisg ‘gladiator’ amdano a’r paent arian ‘ma dros ei gorff i gyd. Efalla odd e’n treial edrych fel Zeus ond alla i ddim bod yn siwr. Byswn i’n meddwl taw un o’r stiwpid ffycars ‘na mas o‘r ‘Royal Academy of Dramatic Art’ oedd e. Fe welid di lot o’enyn nhw yn Covent Garden yn wara’r clown.

Roedd ‘na griw o fechgyn yn treial ei gal e i symud wrth rytag o’i gwmpas e a thynnu gwynab. Own i’n gwpod na fysa hwnna’n gwitho ac felly, fi alwas i un o’nhw draw a gwed wrtho fe i gwnnu’r croen banana odd’ ar y llawr a thowlu hwnna ato fe. Wara teg i’r crwt bach, fe wnath e fwrw’r dwlbyn reit ar ei ben - ac wedyn fe welson ni’r cerflun byw yn dychra symud! Yn anffodus, cerflun byw twp iawn oedd e a dyma fe’n plygu lawr a chitsho yn y croen banana a’i dowlu fe nol atyn nhw. Mae plant bach yn gweld rwpath fel ‘na yn her, ac yn union fel own i’n ei ragweld, dyma nhw’n dychra shoto popith o fewn gafal ato fe. Bu raid iddo fe fynd o ‘na yn y diwadd a wilo am rwla arall i fod yn gerflun byw.

Aeth Gonnie a finna i gal pryd o fwyd yn ‘O Moinho’ – bwyty Portiwgalaidd – lle’r wyt ti’n cal twmpath o fwyd ar y plât. Maen nhw’n gatal i bobol fynd a’u diodydd nhw i mewn gyda nhw hefyd – bring your own bottle teip o beth ac felly fe brynson ni dri photelaid o ‘vin de table’ oedd ar gynnig yn Tesco Metro am £9.99 ac fe geson ni brynhawn i’r brenin.

Dyw Xosé ddim yn rhy hoff o’r Portiwgaliaid a dyma fe’n gwed wrtho i cyn mynd mas y dylsan ni wneud yn siwr na fydd rhyw flewyn yn troi lan yn y bwyd. Ma’ fa’n gwed wrtho i bod mwstash gin bron pob un fenyw ym Mortiwgal a mwy o flew o dan eu ceseiliau nag sydd gin fwnci ar ei ben - lwcus byddi di, meddai fe, os na chei di flewyn yn dy gawl. Down i’m yn cymeryd sylw o hwnna ond a gwed y gwir, odd e ddim yn bell o’i le gyda’r weinyddes yn y lle ‘ma; odd hi yr un mor flewog a’r un mwnci welas i erioed. Fel jôc, dyma fi’n gwed wrth Gonnie nad oedd y weinyddes yn ennill rhyw lawar ne’ bysa hi’n gallu ffwrdo ‘bic razor’ neu diwb o ‘Immac’ pan sylwais i’n sydyn reit nad oedd Gonnie yn brin o flew o dan ei thrwyn hi ‘chwaith. Mae’n gas gen i pan ifi’n rhoi fy nhroed yndi fel ‘na a gwneud cam gwag - does ond gobeithio ‘bo fi wedi cal ‘get away’ gyda hwnna. Ma’n anodd gwpod gyda menywod weithiau – maen nhw’n aros eu cyfle – revenge is best served cold ontefe.

Own i’n gwpod bod Gonnie isha bod yn actores – dyna’r unig beth odd hi’n siarad amdano pan oen ni’n gwitho ym Mcdonalds – ond dyma hi’n gwed wrtho i pan oedden ni wrthi’n byta taw hi oedd ag un o’r prif rannau yn y ddrama ‘Equus’ gan Peter Schaffer yn y ‘Gielgud Theatre’ yn ddiweddar. Digon teg - ond grynda ar hyn: mae hi’n gweid iddi orffod bod yn borcyn ar y llwyfan gyda Daniel Radcliffe aka Harry Potter oedd yn wara rhan ei chariad. Bobol bach, mae’n hen ddigon hen i fod yn fam iddo fe ac roedd ‘na uffach o ddrewdod ‘bullshit’ o gwmpas y lle pan wetws hi hwnna wrtho i. Winna’n gallu malu cachu - gormod weithiau - ond roedd hon wrthi’n malu mwy o gachu na’r un hipo drwg ei dymer ar lannau’r llyn Tanganyika yn Affrica.

Yn ôl Gonnie, mae hi’n mynd am ddau braw-wrandawiad cyn bo hir - un i gymryd drosodd rhan y fenyw sy’n wara Sally Bowles yn ‘Cabaret’ yn y ‘Lyric Theatre’ yn Shaftesbury Avenue a’r llall i wara rhan Beatrice yng nghynhyrchiad y ‘Royal Shakespeare Company’ o ‘Much Ado About Nothing’. Os caiff hi’r naill job ne’r llall, mae’n addo y bydd tocyn arbennig ar gael ifi gal ei gweld hi - ond wi’n credu y bydda i’n fwy tebygol o’i gweld hi yn y gyfres newydd o ‘Big Brother’ na dim byd arall.

1 comentario:

Anónimo dijo...

Jiw - ti'n byw bywyd reit braf heb os ac onibai. Parthed fy fèt Gonnie - hi sydd a'i llunie ar You Tube?
Wi moyn mwy! ;-)